Staff

Translation coming soon...

Gerwyn

Gerwyn Wiliams

Ymgymerodd Gerwyn Wiliams â’i swydd fel golygydd creadigol rhan-amser gyda Gwasg y Bwthyn yn Hydref 2023 ar ôl ymddeol o’i swydd fel Athro yn Adran Gymraeg Prifysgol Bangor. Yn ystod ei yrfa yno bu’n cyfarwyddo projectau ysgrifennu creadigol cenedlaethau o fyfyrwyr. Bu hefyd yn golygu amryw gyfnodolion a chyfresi. Mae’r profiadau hynny rhyngddynt yn ei gymhwyso’n llawn at y swydd hon gyda gwasg sydd wedi cyhoeddi dwy gyfrol o’i gerddi yn y gorffennol sef Rhwng Gwibdaith a Coldplay (2011) a Cardiau Post (2018).

Mared

Meinir Pierce Jones

Ymunodd Meinir Pierce Jones fel golygydd creadigol rhan amser yn 2020. Mae hi’n mwynhau pob agwedd ar gyhoeddi, yn arbennig cydweithio gydag awduron i olygu a chaboli eu creadigaethau llenyddol.

meinir@gwasgybwthyn.cymru

fiona

Fiona Eluned Williams 

Ymunodd Fiona gyda’r wasg yn 2022 fel Swyddog Marchnata llawrydd. Mae ganddi dros 12 mlynedd o brofiad yn y maes cyfathrebu a rheoli projectau yn ogystal â gradd BA mewn Newyddiaduraeth a Chyfathrebu. Fiona sy’n gyfrifol am farchnata a hyrwyddo holl lyfrau Gwasg y Bwthyn ynghyd â chydlynu digwyddiadau a lansiadau.

mari

Mari Emlyn

Ymunodd Mari Emlyn â Gwasg y Bwthyn fel golygydd creadigol rhan-amser yn Rhagfyr 2023. Mae hi wedi cael gyrfa lawn ac amrywiol yn actio ac yn gweinyddu’r celfyddydau – bu am bum mlynedd yn Gyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon. Bu hefyd am gyfnod yn olygydd creadigol gyda Gwasg Gomer. At hynny mae hi’n nofelydd llwyddiannus a dwy o’i chyfrolau wedi eu cyhoeddi gan Wasg y Bwthyn sef Mefus yn y Glaw (2020) a Llyfr y Flwyddyn (2023). Mae hi’n gweithio ar hyn o bryd ar ei chweched nofel.