Privacy Policy
Translation coming soon...
Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Gwasg y Bwthyn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i ni pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon. Mae Gwasg y Bwthyn wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu.
Pryd ydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch a beth rydym yn ei gasglu?
Rydym yn casglu ac yn prosesu data personol pan fyddwch yn:
- ymwneud â ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
- cysylltu â ni mewn unrhyw ddull i wneud ymholiad, cwyn ac ati.
- cystadlu mewn cystadlaethau.
- tanysgrifio i dderbyn cylchlythyr Gwasg y Bwthyn
Mae'r math o ddata yr ydym yn ei gasglu yn cynnwys:
- eich enw, eich cyfeiriad(au), e-bost a rhif ffôn.
- manylion unrhyw gwynion neu sylwadau a wnaethoch drwy e-bost, ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol
Pryd bynnag yr ydym yn casglu neu yn prosesu eich data personol, dim ond cyhyd ag y mae ei angen ar gyfer y diben y'i casglwyd y byddwn yn ei gadw.
Nid ydym yn gwerthu unrhyw wybodaeth bersonol i drydydd partïon. Dydyn ni erioed wedi, a fyddwn ni byth yn gwneud.
Sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol
Rydym eisiau rhoi'r profiad cwsmer gorau posibl i chi.
Mae cyfraith preifatrwydd data yn caniatáu hyn fel rhan o'n ddiddordeb dilys ni mewn deall ein cwsmeriaid a darparu'r lefelau gorau o wasanaeth.
Gallwch ofyn am ddileu eich data ond os byddwch yn dewis peidio â rhannu eich data personol gyda ni, neu yn gwrthod rhai hawliau cysylltu, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt.
- Gyda'ch caniatâd chi, i roi gwybod i chi drwy e-bost am nwyddau a gwasanaethau perthnasol, gan gynnwys cynigion arbennig, gostyngiadau, digwyddiadau, Lansiadau ac ati.
Mae croeso i chi derfynu eich tanysgrifiad i'n cylchlythyr ar unrhyw adeg. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio'r ddolen 'dad-danysgrifio' ar waelod unrhyw e-bost hyrwyddo a anfonwyd gan Gwasg y Bwthyn.
- I weinyddu unrhyw wobrau neu gystadlaethau yr ydych wedi cystadlu ynddynt.