Book of the Month Archive

(Translation coming soon...)

Mae Gwasg y Bwthyn, Caernarfon yn cynnig 'Llyfr bob Mis'. Cysylltwch â'ch siop neu ewch ar lein i archebu.

Cystadleuaeth Prawf MOT!

2022-02-24

Drama Un Dyn

Cystadleuaeth Prawf MOT!

Tynnwch lun ohonoch chi a’ch ci, efo copi o Prawf MOT, nofel newydd wych Bethan Gwanas

Rhowch o ar eich cyfrif Trydar, neu Facebook neu Instagram, a’n tagio ni  ̶  Gwasg y Bwthyn!  

Neu anfonwch eich cais i:  marred@gwasgybwthyn.co.uk neu meinir@gwasgybwthyn.co.uk

Beirnaid: Richard Jones 

Dyddiad cau 31 Mawrth.

Gwobr: Pecyn o lyfrau Gwasg y Bwthyn a phecyn o ddanteithion i’r ci!

 

Llyfr Bach Paris

2020-07-24

Drama Un Dyn

Llyfr arall i godi galon yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Llyfr Bach Paris gan Lara Catrin. Cawn ddilyn anturiaethau Cymraes ym mhrifddinas Ffrainc a dod i adnabod ei chartre dros dro yn well – caffis, dynion golygus, gwin a ffasiwn!

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Eiliadau Tragwyddol

2020-07-23

Drama Un Dyn

Cyfrol arbennig o farddoniaeth yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Eiliadau Tragwyddol gan y Prifardd Cen Williams. Mae’r bardd yn gweld ei genedl trwy ei fro enedigol ar Ynys Môn. Mae’n adleisio profiad y darllenydd wrth fwrw golwg ar y Gymru gyfoes.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Er budd babis Ballybunion

2020-07-22

Drama Un Dyn

Er budd babis Ballybunion gan Harri Parri yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Dyma gyfle i chi droedio strydoedd Porth yr Aur unwaith eto yng nghwmni cymeriadau bythgofiadwy'r dref ryfeddol honno.

Llyfr i godi calon!

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Edau Bywyd

2020-07-21

Drama Un Dyn

Nofel gyfoes a diddorol yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Edau Bywyd gan Elen Wyn. Mi gawn ni gipolwg ar fywydau nifer o bobl ar un diwrnod ym mis Mehefin. Cipolwg, ie, ond fe ddown ni i sylweddoli’n raddol fod cysylltiad rhyngddyn nhw. Mae’r cwlwm yn un tyn na ellir ei dorri...

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Drama Un Dyn

2020-07-20

Drama Un Dyn

Drama Un Dyn gan Tony Jones yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Dyma stori ddifyr hogyn o Fôn fu’n gwarchod y Frenhines ym Mhalas Buckingham a Windsor, yn magu ceffylau Shetland, yn actio, yn adeiladu a chadw siop. Os ydych chi’n hiraethu am y Sioe Fawr, beth am gamu i mewn i fyd y ceffylau yng nghwmni Tony?

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

I Brynu Gwasgod Goch

2020-07-16

Drama Un Dyn

Nofel gyfoes a chrafog sy'n cyflwyno gwrtharwr newydd i'r Gymru gyfoes yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef I Brynu Gwasgod Goch gan Janice Jones. Be ddaw o'r hen hac Robat Jones ac yntau wedi cael ei anfon ar gwrs sgwennu creadigol?

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Rhy Fach!

2020-07-15

Drama Un Dyn

Llyfr hwyliog i blant 7 – 9 oed yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Rhy Fach! gan Mair Wynn Hughes, gyda darluniau gan Jac Jones. Dyma’r llyfr cyntaf yn y gyfres Robotiaid ac ati. Tydi Professor Moriati ddim yn cael llawer o hwyl ar greu robot!

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Cofio R.S.: Gleniach yn Gymraeg?

2020-07-14

Drama Un Dyn

Cofio R.S.: Gleniach yn Gymraeg? yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Mae'r gyfrol hon yn ein cyflwyno i agwedd ar bersonoliaeth R. S. Thomas efallai nas gwelwyd ynghynt yn gyhoeddus sef ei hiwmor, ei ffraethineb a'i garedigrwydd. Atgofion ei ffrindiau a chymdogion a geir yma, ac mae sawl stori gofiadwy am y bardd arbennig hwn oedd hefyd yn enigma.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Ifan Jones a’r Fedal Gee

2020-07-13

Drama Un Dyn

Llyfr i godi calon ar ddydd Llun gwlyb yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw sef Ifan Jones a’r Fedal Gee gan Harri Parri. Rydym yn ôl ym Mhorth yr Aur - i fwynhau cwmni’r gweinidog Eilir Thomas a chymeriadau lliwgar ac annwyl y dref hynod hon.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

O, Mam Bach!

2020-07-10

Drama Un Dyn

Cyfrol sy’n dathlu cyfraniad amhrisiadwy’r Fam i'n cymdeithas yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef O, Mam Bach! Mae’n gymysgedd o straeon byrion, ysgrifau a llên micro.

Yr awduron sydd wedi cyfrannu ar y gyfrol yw Alys Conran, Fflur Medi Evans, Eurgain Haf, Mary Hughes, Sian James, Catrin Lliar Jones, Marred Glynn Jones, Haf Llewelyn, Bethan Lloyd, Rebecca Roberts, Ifana Savill, Manon Steffan Ros, ac Angharad Tomos.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Gwyrddach

2020-07-09

Drama Un Dyn

Gwyrddach gan Mari Elin Jones yw ein Llyfr y Dydd heddiw, cyfrol ddeniadol sy’n cynnig cynghorion call ar sut i fyw bywyd mwy gwyrdd a chreu llai o wastraff.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol, neu ewch ar lein.

Prynwch, mwynhewch a chadwch yn saff!

Barato

2020-07-07

Drama Un Dyn

Barato gan Gwen Pritchard Jones yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef nofel sy’n ddilynant i Pieta. Mae Maria Stella, Arglwyddes Newborough, bellach yn byw ym Mharis ac yn brwydro i brofi iddi gael ei chyfnewid pan yn faban gyda babi un o deuluoedd bonheddig Ffrainc. Y babi hwnnw yw Duc d'Orleans sy’n dod yn frenin Ffrainc. Mae grymoedd gwleidyddol y wlad yn gweithio'n galed yn y dirgel i'w rhwystro rhag profi ei hachos.

Wedi ei blethu gyda'r hanes ffeithiol yma cawn stori ddychmygol Elin Mair, Cymraes sydd wedi dod o Lynllifon i fod yn forwyn ac yna’n companion i Maria Stella. Ceir dirgelwch a rhamant a chipolwg o sefyllfa wleidyddol a chymdeithasol Ffrainc yn y cyfnod.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Hen Enwau o Feirionnydd

2020-07-06

Drama Un Dyn

Llyfr newydd gan Glenda Carr yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Hen Enwau o Feirionnydd gan Glenda Carr, cyfrol hynod o ddiddorol a ddarllenadwy. Mae'n cynnwys gwybodaeth am hen enwau Meirion ac yn mynd â'r darllenydd ar sawl daith ddifyr!

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol, neu ewch ar lein.

Prynwch, mwynhewch a chadwch yn saff!

Gwirionedd

2020-07-02

Drama Un Dyn

Nofel wych sydd wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw sef Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds. Llongyfarchiadau mawr i Elinor a phob lwc! Dyma nofel sy’n gorlifo â chariad.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Rhannu Ambarél

2020-06-30

Drama Un Dyn

Cyfrol wnaeth gipio’r Fedal Ryddiaith yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Rhannu Ambarél gan Sonia Edwards. Bydd y gyfrol hon o straeon byrion yn aros yn eich cof am amser maith. Mae’r awdur yn adnabod pobol, yn ein dwyn i ganol eu bywydau, ac yn cyffwrdd ein calonnau wrth i’w chymeriadau brofi tynerwch a chreulondeb cariad.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Gwn Glân a Beibl Budr

2020-06-29

Drama Un Dyn

Gwn Glân a Beibl Budr gan Harri Parri yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Mae enw John Williams Brynsiencyn yn parhau i fod mor fyw yn ein cof fel cenedl. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf credai mai ei ddyletswydd oedd recriwtio bechgyn ifanc i ymuno â’r Fyddin, ac oherwydd hynny cafodd ei alw’n Herod ac yn sant. Llyfr lloffion o gyfrol yw hon. Mae’r wedi casglu ffeithiau, lluniau, llythyrau, cofnodion ac atgofion ynghyd am y gŵr sy’n parhau i fod yn destun trafod brwd heddiw, gan geisio dod i adnabod y person tu ôl i’r wyneb cyhoeddus.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Mynydd Du

2020-06-26

Drama Un Dyn

Cyfrol o farddoniaeth sef Mynydd Du gan Frank Olding yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Mae’n adlewyrchu profiad Cymro Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru wrth geisio hybu a defnyddio’r iaith yn yr ardal. Yn ogystal â cherddi mwy personol eu naws, mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys cerddi sy’n ymateb i dirlun, hanes a llên gwerin Cymru benbaladr.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol. #carudarllen #cefnogisiopaullyfrau

Milgi Maldwyn

2020-06-25

Drama Un Dyn

Milgi Maldwyn gan Beryl Vaughan yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Dyma gyfle i ni ail fyw taith ddifyr o amgylch arfordir Cymru yng nghwmni Beryl wrth iddi hel arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Llyfr lliw llawn lluniau.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol. #carudarllen #cefnogisiopaullyfrau

Rhwng Gwibdaith a Coldplay

2020-06-24

Drama Un Dyn

Cyfrol o gerddi a llên meicro, Rhwng Gwibdaith a Coldplay gan Gerwyn Wiliams yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Mae'r gyfrol yn gyfres o argraffiadau o Barc Menai a Bae Caerdydd, yn gardiau post o Ground Zero a Grafton Street, yn gipluniau o Belsen a Phont Aven, gyda chaneuon Leonard Cohen, Gwibdaith Hen Frân a Coldplay yn gyfeiliant yn y cefndir.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol. #carudarllen #cefnogisiopaullyfrau

O’r Un Brethyn

2020-06-23

Drama Un Dyn

Llyfr arbennig arall gan Harri Parri, sy’n dangos ei ddawn i sgrifennu'n gofiadwy am gymeriadau yw ein Llyfr y Dydd heddiw, sef O’r Un Brethyn. Nid cymeriadau ei ffuglen na chydnabod ei deulu sy'n denu ei sylw y tro hwn, ond cymeriadau a wnaeth argraff ddofn arno mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol. #carudarllen #cefnogisiopaullyfrau

Y Diwyd Fugail a Helynt y Faciwîs

2020-06-22

Drama Un Dyn

Cyfrol sy'n dilyn stori ryfeddol y gweinidog carismatig, Y Parchedig Thomas Arthur Jones, yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Y Diwyd Fugail a Helynt y Faciwîs gan Marion Arthur. Mae’r stori yn cynnwys hanes y ffrae fawr a rwygodd ei gapel ym Methesda.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol. #carudarllen #cefnogisiopaullyfrau

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Sgriblwr: Byw i sgwennu

2020-06-18

Drama Un Dyn

Sgriblwr: Byw i sgwennu, cyfrol sy’n dathlu cyfraniad amhrisiadwy’r diweddar Glyn Evans - newyddiadurwr, llenor a bardd talentog - yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Mae’n cynnwys enghreifftiau o waith ardderchog Glyn a chyfraniadau gan ei deulu, ffrindiau a chydweithwyr.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Eiramango a’r Tebot Pinc

2020-06-18

Drama Un Dyn

Eiramango a’r Tebot Pinc gan Harri Parri yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Dyma gasgliad arall o straeon doniol a dychanol yn adrodd helyntion difyr y Parchedig Eilir Thomas a thrigolion lliwgar a ffraeth Porth yr Aur.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Ar fy ngwaethaf

2020-06-17

Drama Un Dyn

Ar fy ngwaethaf, hunangofiant John Stevenson, cyn ohebydd gwleidyddol BBC Cymru a fu farw’n ddiweddar, yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Syrthiodd John i'r dyfnderoedd ac ailadeiladodd ei fywyd nid unwaith ond deirgwaith. Mae'n adrodd hanes llwyddiannau sylweddol ei yrfa, ei frwydr yn erbyn alcoholiaeth a'i ymrafael i dderbyn ei rywioldeb.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Rhagfarnau

2020-06-16

Drama Un Dyn

Ydych chi’n barod am y llyfr hwn sef Rhagfarnau gan y diweddar Robyn Léwis, ein Llyfr y Dydd heddiw? Mae ei gynnwys ffraeth yn anelu sawl cic haeddiannol ac amlwg – at waed – i gyfeiriad y Sefydliad. Mae’r awdur yn dangos na fu ganddo erioed ofn dweud ei ddweud. Cyfrol amrywiol, diddorol a dadlennol.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Ai Breuddwydion Bardd Ydynt?

2020-06-15

Drama Un Dyn

Ai Breuddwydion Bardd ydynt? gan John Gruffydd Jones yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Mae John yn awdur sydd wedi ennill rhai o brif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol - Y Goron, y Fedal Ryddiaith a’r Fedal Ddrama. Dyma gyfle i fwynhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth. Os mai hiraeth yw cywair llywodraethol y casgliad, nid hiraeth meddal a phruddglwyfus mohono ond hiraeth wedi’i angori mewn dynoliaeth.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Apostol

2020-06-12

Drama Un Dyn

Nofel rymus am un o gymeriadau mawr Cristnogaeth, yr Apostol Paul, yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Apostol gan Dyfed Edwards. Mae Dyfed yn cynnig dehongliad heriol o fywyd a gwaith Paul ac yn gorfodi’r darllenydd i ail edrych ar y dyn cymhleth hwn. Unwaith eto, fel yn ei nofel Iddew, mae Dyfed Edwards yn gwthio’r ffiniau.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Taro Deuddeg

2020-06-11

Drama Un Dyn

Taro Deuddeg, sef casgliad o hwiangerddi hyfryd gan Cefin Roberts yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Robat Arwyn, Einion Dafydd ac Annette Bryn Parri.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

O Ben Cilan i Bombay

2020-06-10

Drama Un Dyn

Stori gwas ffarm o Ben Llŷn sy'n darganfod ei hun yn India bell yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef O Ben Cilan i Bombay gan Harri Parri. Mae stori David Jones, Tŷ Brics, Mynytho, yn ymestyn o ddiwedd oes Fictoria hyd saithdegau'r ugeinfed ganrif.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

I Brynu Gwasgod Goch

2020-06-09

Drama Un Dyn

Nofel gyfoes a chrafog sy’n cyflwyno gwrtharwr newydd i’r Gymru gyfoes yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef I Brynu Gwasgod Goch gan Janice Jones. Be ddaw o’r hen hac Robat Jones ac yntau wedi cael ei anfon ar gwrs sgwennu creadigol?

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Iddew

2020-06-08

Drama Un Dyn

Nofel hynod o bwerus yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Iddew gan Dyfed Edwards. Mae’n ein hyrddio i ganol bywyd cythryblus Yeshua bar-Yôsep Natz’rat (Iesu fab Joseff o Nasareth), a’i daith i’r Groes. Meddai Dewi Prysor am y nofel wefreiddiol hon, ‘Dyma nofel ysgubol ac eithriadol iawn; gwaith o athrylith sy'n gwthio ffuglen Gymraeg i dir newydd.’

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Pietà

2020-06-05

Drama Un Dyn

Pietà gan Gwen Pritchard Jones yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Yn y nofel hon cawn fwynhau hanes cynnar bywyd Maria Stella Petronilla yn Fflorens hyd nes iddi gael ei gorfodi i briodi’r Arglwydd Newborough. Cawn ein trochi yn awyrgylch Fflorens a Pharis yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Lygad yn Llygad

2020-06-04

Drama Un Dyn

Cyfrol o farddoniaeth yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Lygad yn Llygad gan y prifardd Huw Meirion Edwards a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch yn 2004. Meddai’r bardd Dafydd Pritchard am y gyfrol hon,’Gellir gwneud dau honiad am Huw Meirion: mae o’n grefftwr ac mae o’n delynegwr. Mae hon yn gyfrol ragorol.'

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Milionêrs

2020-06-03

Drama Un Dyn

Waw! Ennill y Loteri. Dyna yw profiad Wendi, gwraig, mam a nain brysur yn ein Llyfr y Dydd heddiw, Milionêrs gan Marlyn Samuel. Ar ôl ennill £9.1 miliwn, mae’n ymddangos fod problemau Wendi ar ben ond megis dechrau maen nhw! Cawn chwerthin a chrio gyda Wendi wrth iddi ddod i delerau â bywyd ar ôl cyffro'r digwyddiad mawr - bywyd sy’n llawn o brofiadau newydd gan gynnwys gwyliau egsotig, tŷ enfawr, ceir pwerus, noson yn y Ritz a chyflwynydd rhaglen newyddion gyda chwip yn ei law!

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Miwsig Moss Morgan

2020-06-02

Drama Un Dyn

Nofel arbennig gan Siân Lewis, Miwsig Moss Morgan, yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Mae Moss Morgan, un o drigolion tref Aberberwan, yn dipyn o enigma. Mae ei benderfyniad i symud o’i gartref i fyw mewn ogof yn edrych allan ar y môr yn mynd i gael effaith pellgyrhaeddol ar fywyd un o drigolion y dref.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

O’r Llechi i’r Cerrig

2020-06-01

Drama Un Dyn

O’r Llechi i’r Cerrig, hunangofiant y meddyg teulu annwyl, y diweddar Dr Eddie Davies, fu’n gwasanaethu ei gleifion yn ardal Uwchaled ers y 50au, yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Mae hiwmor tawel Dr Eddie yn amlwg trwy’r gyfrol, a’i gonsyrn am ei gleifion, wrth iddo ymdrin â phob math o afiechydon, damweiniau ar y fferm, ac yn aml, damweiniau ffordd, gan fod ffordd yr A5 yn troelli trwy’r ardal hon.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Cannwyll yn olau

2020-05-29

Drama Un Dyn

Cannwyll yn olau gan Harri Parri yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Llyfr lliw llawn hynod o ddiddorol yn cyflwyno hanes John Puleston Jones, person dawnus, deallus a huawdl oedd yn cael ei adnabod fel 'Y Pregethwr dall'. Gan ei fod yn heddychwr, roedd yn dipyn o ddraenen yn ystlys John Williams, Brynsiencyn, a hynny yng nghyfnod y Rhyfel Mawr.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Nain Nain Nain

2020-05-28

Drama Un Dyn

Llyfr gwreiddiol hyfryd i blant 3-7oed yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Nain Nain Nain gan Rhian Cadwaladr. Mae’n gyfrol sy’n trin henaint, cariad a chyfeillgarwch gyda sensitifrwydd. Mae Nedw yn arbennig o hoff o’i dair nain ond beth sy'n digwydd pan mae'n rhaid i Hen Nain Elsi symud i fyw i gartref preswyl?

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Sgin ti fonolog?

2020-05-27

Drama Un Dyn

Sgin ti fonolog?, gan Cefin Roberts yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Cyfrol o 36 o fonologau gwreiddiol ar gyfer pobol ifanc, wedi eu hysgrifennu gan un sydd wedi bod yn ei chanol hi yn y byd perfformio ers blynyddoedd. Ceir yma hiwmor a dwyster, a'r cyfle i fachu cynulleidfa!

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Rhannu Ambarél

2020-05-26

Drama Un Dyn

Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2017 yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Rhannu Ambarél gan Sonia Edwards. Bydd y gyfrol hon o straeon byrion yn aros yn eich cof am amser maith. Mae’r awdur yn adnabod pobol, yn ein dwyn i ganol eu bywydau, ac yn cyffwrdd ein calonnau wrth i’w chymeriadau brofi tynerwch a chreulondeb cariad.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Cerdded y Palmant Golau

2020-05-22

Drama Un Dyn

Llyfr newydd sbon arall yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Cerdded y Palmant Golau gan Harri Parri. Mae’n gyfrol lliw llawn sy'n gofnod difyr o fywyd a gwaith Harri Parri fel gweinidog mewn tair ardal.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Dawns Ganol Dydd

2020-05-21

Drama Un Dyn

Nofel gan John Gruffydd Jones yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Dawns Ganol Dydd. Pen Llŷn yn yr 1980au. Mae cymuned glòs o dan fygythiad gan gwmni olew enfawr sydd â'i fryd ar wneud elw. A fydd priodas hefyd o dan fygythiad wrth i wyneb o’r gorffennol ddod ag atgofion am gariad cyntaf yn ei sgil? Mae’n stori am gymdeithas sy’n wynebu newid, ac am gariad sydd wedi mynnu goroesi ar waetha treigl amser.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Hen Enwau o Feirionnydd

2020-05-20

Drama Un Dyn

Llyfr newydd sbon ydi ein Llyfr y Dydd heddiw sef Hen Enwau o Feirionnydd gan Glenda Carr. Cyfrol hynod o ddiddorol a ddarllenadwy. Mae'n cynnwys gwybodaeth am hen enwau Meirion ac yn mynd â'r darllenydd ar sawl daith ddifyr!

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Eiliadau Tragwyddol

2020-05-19

Drama Un Dyn

Cyfrol o farddoniaeth sy’n cyffwrdd y galon yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Eiliadau Tragwyddol gan y Prifardd Cen Williams. Trwy ei fro enedigol ar Ynys Môn y gwêl y bardd ei genedl, gan adleisio profiad y darllenydd wrth fwrw golwg ar y Gymru gyfoes.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Cyffordd i Gyffordd

2020-05-18

Drama Un Dyn

Gan fod y cyfyngiadau presennol yn ei rhwystro rhag teithio Cymru beth am gymryd y cyfle i deithio’r wlad yng nghwmni hen hac ffraeth? Cyffordd i Gyffordd gan Ian Parri yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Ar ôl llwyddo i osgoi'r A470, neidio ar drên mae Ian Parri y tro hwn i fynd ar drywydd mannau a phobol ddifyr. A'r enwog Dyfi Jyncshiyn ydi dechrau a diwedd y daith.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Edau Bywyd

2020-05-14

Drama Un Dyn

Nofel gyfoes sy’n wead celfydd o ddarluniau trawiadol yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw, sef Edau Bywyd gan Elen Wyn. Mae’n cynnig cipolwg ar fywydau nifer o bobl ar un diwrnod ym mis Mehefin. Cipolwg, ie, ond fe ddown ni i sylweddoli’n raddol fod cysylltiad rhyngddyn nhw. Mae’r cwlwm yn un tyn na ellir ei dorri ...

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Dewch at eich gilydd

2020-05-13

Drama Un Dyn

Nofel gan Meg Elis yw ein Llyfr y Dydd heddiw, sef Dewch at eich gilydd. Cawn ein bwrw i ganol cyffro ymgyrch Etholiadau’r Cynulliad 2016. Un etholaeth, pedwar ymgeisydd. Pwy o’r rhain fydd yn closio at ei gilydd oddi mewn i’w bybl gwleidyddol? Neu ai gelynion pennaf fyddan nhw ar ddiwedd yr ymgyrch?

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Lygad yn Llygad

2020-05-12

Drama Un Dyn

Cyfrol gyntaf y prifardd Huw Meirion Edwards yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Lygad yn Llygad. Meddai’r bardd Dafydd Pritchard, 'Gellir gwneud dau honiad am Huw Meirion: mae o’n grefftwr ac mae o’n delynegwr. Mae hon yn gyfrol ragorol.’

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Fy Nghar Cyntaf

2020-05-11

Drama Un Dyn

Llyfr hwyliog yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Fy Nghar Cyntaf. Mae’n rhoi cyfle i ddwsin o bobol hel atgofion am eu car cyntaf – eu hanturiaethau wrth yrru'r car, ar hyn yr oedden nhw yn ei wneud oddi fewn y car! Cyfraniadau gan Harri Parri, Angharad Tomos, Mari Gwilym, Heulwen Haf, Ifan Jones Evans, Siân Thomas, Gari Wyn, Rhys Jones, Idris Charles, Eleri Huws, Emlyn Richards a Buddug Medi.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Nadolig Pwy a ŵyr2?

2020-05-08

Drama Un Dyn

Beth am barhau ein dathliadau Dolig trwy ddarllen ein Llyfr y Dydd, Nadolig Pwy a ŵyr2? Cyfrol arall o straeon i gyd yn ymwneud â’r Nadolig. Yr awduron yw Lleucu Roberts, Marlyn Samuel, John Gruffydd Jones, Non Mererid Jones, Gwenni Jenkins-Jones, Cefin Roberts, Anwen Pierce, Bet Jones, Caryl Angharad a Manon Wyn Williams.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Nadolig Pwy a Ŵyr?

2020-05-07

Drama Un Dyn

Beth am edrych ymlaen at ddathliadau i ddod a chwmni teulu a ffrindiau? Cyfrol o straeon byrion i gyd yn ymwneud â'r Nadolig yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Nadolig, pwy a ŵyr? Mae'r deg awdur wedi dilyn eu cwys eu hunain, ac mae'r amrywiaeth a'u dawn sgrifennu wedi sicrhau bod hon yn gyfrol gofiadwy. Yr awduron ydi Sian Northey, Meg Elis, Jon Gower, Gwen Parrott, Mared Lewis, Mari Elin Jones, Bethan Jones Parry, Menna Medi, Gareth Evans Jones a Ioan Kidd.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Llwybrau'r Cof

2020-05-06

Drama Un Dyn

Llyfr anrheg i'w drysori yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Llwybrau’r Cof gan Elen Wyn Roberts. Y nod yw ein hannog i rannu ein hatgofion. Anrheg ardderchog ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno nodi atgofion a chreu llyfr teuluol hardd i'w drosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Hen Enwau o Ynys Môn

2020-05-05

Drama Un Dyn

Hen Enwau o Ynys Môn gan Glenda Carr yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Enwau lleoedd Môn sy'n datgelu eu cyfrinachau yn y gyfrol ddifyr hon. Cyfrol i bori ynddi yn sicr!

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Ymdroelli tua’r Cant

2020-05-04

Drama Un Dyn

Ymdroelli tua’r Cant, sef atgofion y cerddor Brian Hughes o'r Poncie, un o brif gyfansoddwyr Cymru, yw ein Llyfr y Dydd heddiw.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Cariad Pur?

2020-05-01

Drama Un Dyn

Cariad pur? yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw, cyfrol o straeon byrion i gyd yn ymwneud â chariad. Mae'n gyfuniad difyr o ramant a realiti. Yr awduron sydd wedi cyfrannu at y gyfrol ydi Tony Bianchi, Guto Dafydd, Bethan Gwanas, Eurgain Haf, Llio Mai Hughes, Bet Jones, John Gruffydd Jones, Sian Rees a Marlyn Samuel.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Haf o hyd?

2020-04-30

Drama Un Dyn

Anghofiwch am y glaw! Beth am fwynhau dipyn o heulwen wrth ddarllen ein Llyfr y Dydd ni heddiw, Haf o hyd? Yr haf ydi pwnc pob un o’r straeon byrion sydd yn y gyfrol ddifyr ac amrywiol hon. Storïau gan Mari Gwilym, Annes Glynn, Aled Islwyn, Lleucu Roberts, Haf Llewelyn, Rhian Owen, Non Tudur, Llio Maddocks, Heiddwen Tomos, Gareth Evans-Jones a Gwen Lasarus.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Aderyn Prin

2020-04-28

Drama Un Dyn

Nofel gyfoes a chyffrous yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw, Aderyn Prin gan Elen Wyn. Lena yw’r aderyn prin - Cymraes o bentref Waunfawr yng Ngwynedd sy'n gweithio fel swyddog i'r FBI. Ond yng Nghymru y bydd hi'n dod wyneb yn wyneb â'i gelyn pennaf.

Meddai Lyn Ebenezer, ‘Dyma i mi y math o nofel y mae mawr angen amdani yn Gymraeg, nofel sy'n cynnig dihangfa o fywyd bob dydd.’
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Cardiau Post

2020-04-27

Drama Un Dyn

Beth am freuddwydio am deithio heddiw? Ein Llyfr y Dydd yw Cardiau Post gan Gerwyn Wiliams. Cyfrol liwgar, apelgar o 70 o gerddi cardiau post o fannau yng Nghymru ac ar draws y byd, gyda’r bardd yn sylwi ar droeon bywyd ac yn cynnig yr annisgwyl.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

O, Mam Bach!

2020-04-24

Drama Un Dyn

Cyfrol sy’n dathlu cyfraniad amhrisiadwy’r Fam i'n cymdeithas ydi O, Mam Bach! ein Llyfr y Dydd ni heddiw. Mae’n gymysgedd o straeon byrion, ysgrifau a llên micro ac ymysg yr awduron mae Angharad Tomos, Alys Conran a Haf Llewelyn. Meddai un adolygydd, ‘Mae’r gyfrol fel sws gynnes ar foch, yn llawn hanesion melys.’

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Glaw Trana

2020-04-23

Drama Un Dyn

Nofel rymus a gafaelgar sy’n cyffwrdd y galon yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw sef Glaw Trana gan Sonia Edwards. Mae peryglon mewn cadw hen gyfrinachau. A fydd Now a Lois yn talu’r pris am weithredoedd eu rhieni? Dilyniant i Mynd Adra'n Droednoeth yw’r nofel hon ond mae’n sefyll ar ei thraed ei hun.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Eira Llwyd

2020-04-22

Drama Un Dyn

Nofel fer, gynnil a thelynegol yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw, sef Eira Llwyd gan Gareth Evans-Jones. Mae’n dilyn tri Iddew a garcharwyd yn ystod yr Holocost, ac yn stori sy'n cyffwrdd y galon.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Eilun

2020-04-20

Drama Un Dyn

Cyfrol o farddoniaeth yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw sef Eilun, gan Frank Olding. Casgliad hudolus o gerddi sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn nhir a hanes Cymru.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Mynd Adra'n Droednoeth

2020-04-17

Drama Un Dyn

Mynd Adra’n Droednoeth gan Sonia Edwards yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Nofel delynegol sy'n gofyn y cwestiwn oesol: beth yw pris gwir hapusrwydd?

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Fy Nghariad Cyntaf

2020-04-16

Drama Un Dyn

Dyma lyfr arall i godi’ch calon! Fy Nghariad Cyntaf yw ein dewis heddiw ar gyfer Llyfr y Dydd. Dwsin o bobol ddewr sydd wedi cael eu perswadio i ddatgelu cyfrinachau go bersonol, wrth hel atgofion am eu cariad cyntaf. Mae’r ysgrifau yn amrywiol ac yn ein tywys ar daith o atgofion difyr, gyda’r cariadon cyntaf yn amrywio o dedi bêr i Bryn Fôn!

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Estyn Llaw

2020-04-09

Drama Un Dyn

Angen codi’ch calon? Beth am ddarllen cyfrol sy’n cynnig pwt cysurlon ar gyfer bob dydd o’r flwyddyn? Estyn Llaw yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw. Mae’r pytiau yn hwb i’r galon, yn codi gwên ac yn procio’r meddwl.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Porth y Byddar

2020-04-09

Drama Un Dyn

Nofel yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw, sef Porth y Byddar gan Manon Eames, sy’n olrhain hanes dirdynnol boddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn. Cawn ein taflu i ganol emosiwn a chythrwfl y cyfnod pwysig hwn yn hanes Cymru.

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Pobol i'w Hosgoi

2020-04-03

Drama Un Dyn

Gan ein bod ni’n osgoi ein gilydd ar hyn o bryd, mae Llyfr y Dydd heddiw yn ddewis addas! Cyfrol o straeon byrion gan Ruth Richards yw Pobol i’w Hosgoi, sy’n gymysgedd o’r crafog, y dychanol a’r doniol. I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Cofiwch fod Cyngor Llyfrau Cymru wedi cadarnhau bod eu gwefan lyfrau gwales.com wedi ail agor ar gyfer eich archebion. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd wedyn yn derbyn ei chomisiwn arferol ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Cofio RS

2020-04-02

Drama Un Dyn

Cofio R.S.: Cleniach yn Gymraeg? yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw. . Mae'r gyfrol hon yn ein cyflwyno i agwedd ar bersonoliaeth R. S. Thomas efallai nas gwelwyd ynghynt yn gyhoeddus sef ei hiwmor, ei ffraethineb a'i garedigrwydd. Atgofion ei ffrindiau a chymdogion a geir yma, ac mae sawl stori gofiadwy am y bardd arbennig hwn oedd hefyd yn enigma.

Y newyddion da ydi bod Cyngor Llyfrau Cymru wedi cadarnhau bod eu gwefan lyfrau gwales.com, wedi ail agor ar gyfer eich archebion. Gall pobl sy'n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd wedyn yn derbyn ei chomisiwn arferol ar gyfer bob gwerthiant.

Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!

Glasynys

2020-04-01

Drama Un Dyn

Glasynys, nofel gan Ann Pierce Jones, yw ein Llyfr y Dydd ni heddiw. Mae hi'n ddiwedd haf 1965, ac mi gawn ni ddilyn hanes teulu sy'n symud o'u cynefin ym Mhen Llŷn i gartref newydd, sef Glasynys, fferm ar bwys Conwy. Dianc y maen nhw rhag trasiedi teuluol. A fydd y fferm yn cynnig gobaith newydd iddyn nhw?

I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein.

Cadwch yn saff, a mwynhewch.

Gwyrddach

2020-03-31

Drama Un Dyn

Cyfrol sy’n ein hannog i gymryd camau bychain i leihau ein defnydd o blastig yw ein Llyfr y Dydd heddiw.

Mae Gwyrddach gan Mari Elin Jones yn cynnig cyngor doeth a difyr.

Cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu archebwch ar-lein.

Byddwch wyrdd, byddwch ddiogel a mwynhewch!

Pobol Porth Yr Aur

2020-03-30

Drama Un Dyn

Beth am fwynhau llond bol o chwerthin ar ddechrau wythnos anarferol arall? Pobol Porth yr Aur yw ein Llyfr y Dydd ar eich cyfer heddiw. Cyfle i ddarllen rhai o straeon gwych Harri Parri a chael gwybod mwy am eu cefndir.

Cadwch yn saff a mwynhewch!

Llyfr Bach Paris

2020-03-27

Drama Un Dyn

Beth am redeg i Baris heddiw (nid yn llythrennol, wrth gwrs!) yng nghwmni Lara Catrin? Llyfr Bach Paris, cyfrol sy’n llythyr cariad at brifddinas Ffrainc.

Mwynhewch a chadwch yn saff.