Books
Welsh only...
Dyn ar Dân
£9.50
ISBN: 9781913996994
O'r Rhondda i'r Rhath, o Baris i Balesteina, ac o Lundain i Leipzig, mae cydwybod cymdeithasol Martin Huws yn ei yrru mewn casgliad llawn amrywiaeth o gerddi. Mae'n effro ar hyd y daith i ddioddefaint dynol a ddarlunnir ganddo mewn cyfres o ddelweddau sy'n aflonyddu ac yn llosgi - delweddau'r dyn ar dân.
Hanna
£7.99
ISBN: 9781917006019
Nofel i ddysgwyr Cymraeg Lefel Uwch yng nghyfres Amdani gan yr awdures boblogaidd, Rhian Cadwaladr. Morwyn yng nghartre stiwrad y chwarel yw Hanna sy'n herio'r drefn mewn oes galed. Dyma nofel hanes fywiog sy'n agor yn 1910, â'r gymdeithas chwarelyddol yn gefndir iddi.
Madws
£9.95
ISBN: 9781913996581
Nofel ffantasi hanesyddol wedi'i gosod yn 1752 adeg y newid o'r calendar Iwlaidd i'r calendr Gregoraidd. Mae'n adrodd hanes Martha, merch y potecari, a gludir i Annwn gan Madws (y cymeriad sy'n rheoli amser), a'i hanturiaethau rhyfeddol yno. Mae hon yn nofel glyfar, amlhaenog, egnïol a gwahanol, gyda digon o hiwmor ac o fynd ynddi.
Aur yn y Pridd
£10.00
ISBN: 9781913996765
Nofel am lofruddiaeth wedi'i gosod yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Dela Arthur yw prifathrawes ysgol gynradd pentref bach Nant yr Eithin; mae'n dipyn o haden a hi yw ditectif y nofel. Mae'r stori'n dechrau ar ddiwrnod trip plant hynaf yr ysgol. Yn y bennod gyntaf, mae'r bws ysgol wedi mynd i ffos ddofn gan beryglu bywydau pawb
Arwana Swtan a'r Sgodyn Od
£8.00
ISBN: 9781917006002
Dyma nofel fer a doniol dros ben gan awdur sy'n gwybod sut i ddiddori a phlesio plant. Mae pethau'n ddiflas iawn yng Nghaernarfon pan mae Arwana Swtan yn cyrraedd yno yng nghanol storm fawr i aros efo'i thaid, Taidi. Ond diolch i'r fôr-forwyn hynod honno, Swigi Dwgong, daw tro ar fyd i'r dre a'i phobol. Stori gyflym, glyfar a llawn hiwmor.
Cwtsh
£5.00
ISBN: 9781913996819
Llyfr perffaith i'w roi fel anrheg i'ch cymar, ffrind neu aelod o'r teulu. Mae'r llyfr bach deniadol hwn yn cynnwys cwtsh cariadus ar Ddydd Santes Dwynwen, ac ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y flwyddyn! Mae'r gyfrol liwgar hon yn cynnwys detholiad hyfryd o gerddi, rhyddiaith, dywediadau, i gyd yn ymwneud â chariad.
Golau Arall
£7.00
ISBN: 9781913996987
Bwriad y llyfr llesiant hwn - cyfuniad ysbrydoledig o ddarluniau a geiriau - ydi ein cyfeirio a'n tywys ni'r darllenwyr at y golau hwnnw a'r golau arall sy'n aml dan ein trwynau er nad ydan ni bob tro'n gallu ei weld. Mae'r awdur yn arlunydd tirluniau a chanddo brofiad helaeth o weithio fel gweithiwr cymorth ieuenctid a thiwtor gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion.
Tadwlad
£10.00
ISBN: 9781913996796
Mae'r nofel hon yn olrhain taith y prif gymeriad Dylan Rhys, sy'n gweithio mewn canolfan ffoaduriaid, i ddysgu am hanes ei deulu a phwy oedd ei gyndadau. Mae ei orffennol ef a phresennol rhai o'r dynion sydd dan ei ofal yn y ganolfan yn cyd-daro i greu stori bwerus a chyfoethog. Dyma nofel am ddynion, eu perthynas â'i gilydd, a'u brodyr a'u tadau.
Casa Dolig
£18.00 / e-lyfr £10.00
ISBN: 9781913996956 (1913996956)
Yn dilyn llwyddiant ysgubol llyfr coginio cyntaf yr awdures a'r actores Rhian Cadwaladr, bu cryn edrych ymlaen at weld cyhoeddi'r llyfr hardd a defnyddiol hwn. Mae'n dilyn yr un patrwm â Casa Cadwaladr ond yn cyflwyno ryseitiau fydd yn addas ar gyfer gwyliau'r Nadolig. Cyfle unwaith eto i Rhian rannu atgofion a ryseitiau. Gyda lluniau gan Kristina Banholzer.
Yn blwmp ac yn blaen
ISBN: 9781913996734 (1913996735)
£10.00
Pleser mawr gan Wasg y Bwthyn yw cyhoeddi hunangofiant yr unigryw Cefin Roberts i gyd-fynd â'i ben blwydd yn 70 ym mis Hydref 2023. Mae'n gyfrol hynod ddarllenadwy, yn llawn storïau ac anecdotau difyr, atgofion am berfformiadau a phrofiadau ar daith bywyd. Cawn ei hanes o'i ddyddiau cynnar hyd at ddyddiau Glanaethwy a dydi'r awdur ddim yn swil o ddweud ei farn ar ambell bwnc!
Y Nendyrau
ISBN: 9781913996703 (1913996700)
£8.00
Nofel wedi'i lleoli mewn dyfodol dychmygol ond posib yw hon. Cawn ein dal o'r frawddeg gyntaf: Pan ti'n edrych allan o ffenest gegin tŷ ni, ti'n gweld dim ond awyr a chlywn Daniel, bachgen 16 oed, yn adrodd ei stori yn ei lais clir. Yn sgil cynhesu byd-eang, mae'r byd wedi newid, a Daniel a'i gymuned yn byw mewn nendwr ar gyrion dinas a aeth dan y môr. Stori am antur a chariad.
Darn Bach o’r Haul
ISBN: 9781913996741 (1913996743)
£9.00
Cyfrol sy'n rhoi'r cyfle i'r rhai sydd wedi colli babanod i rannu eu profiadau, yn y gobaith y bydd o gymorth i'r darllenwyr hynny sydd wedi dioddef yr un golled. Meddai golygydd y gyfrol, Rhiannon Williams, 'Hoffwn feddwl bod y gyfrol hon yn coffáu'r angylion bach a fu'n byw yn ein dychymyg a'n breuddwydion am gyfnod byr, ond fydd yn ein calonnau am byth.’ Lluniau gan Luned Aaron.
Gwibdaith Elliw
ISBN: 9781913996727 (1913996727)
£9.95
Merch ifanc ar gyrion cymdeithas yw Elliw sydd mewn cadair olwyn yn dilyn damwain, yn chwilio am gariad ac yn ceisio dod i delerau â'i hanabledd. Dyma nofel am greadigrwydd ac am ddychymyg. Mae'n llawn cysyniadau cyfareddol: teithio, lliwiau a chartref. Nofel wych i bobl ifanc a chylchoedd trafod. Hon yw nofel gyntaf Ian Richards, siaradwr newydd sydd wedi meistroli'r Gymraeg yn wych.
Ro’n i’n arfer bod yn rhywun
ISBN: 9781913996802 (1913996808)
£10.00
Hunangofiant hynod o ddiddorol sy'n ceisio ateb y cwestiwn pwy ydy Marged Esli? Mae'n actores a chyflwynwraig sydd wedi mwynhau gyrfa hir yn credu mai rhywun arall ydy hi. Pwy yn union? Cawn wybod mwy yn y gyfrol ddifyr hon sydd hefyd yn sôn am nifer o anturiaethau, a chariad oedd yn byw mewn cwt sinc yng Nghanada!
Y Cylch
ISBN: 9781913996598 (191399659X)
£9.00
Nofel gyfoes, wreiddiol sy'n ein dwyn i ganol bywyd goruwchnaturiol cwfen o wrachod ym Mangor. Wrth iddynt geisio darganfod llofrudd, deuwn i sylweddoli nad ydi bywyd gwrach gyfoes yn un hawdd! Ffantasi, hiwmor a sawl tro yn y gynffon. Dyma i chi chwip o stori dda!
Y Delyn Aur
ISBN: 9781913996680 (1913996689)
£10.00
Cofiant unigryw yn y Gymraeg gan awdur ifanc sy'n ein tywys ar daith ddadlennol a phersonol. Mae Malachy Edwards yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Yn gefndir i'r gyfrol mae ein hanes diweddar ni, yn cynnwys Brecsit a Chofid-19. Mae'n ysgrifennu'n onest am brofiadau mawr ei fywyd megis geni ei blant.
Ar Adain Cân
ISBN: 9781913996697
£9.95
Nofel hanesyddol sy'n stori garu, ac yn llawer mwy. Wedi ei gosod yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, mae'n dilyn hynt cantores ifanc o ardal Clydach a'i pherthynas â Sais ifanc o gefndir hollol wahanol. Yn gefndir i'w stori mae bywyd Cwm Rhondda, y Rhyfel Cartref yn Sbaen a bywyd lliwgar Llundain - o’r Academi Gerddorol i'r clybiau nos.
Cyfrinachau Ystumllyn
ISBN: 9781913996628
£9.00
Nofel hanesyddol gyfoethog ar gyfer oedolion sy'n dilyn stori'r Capten Lewis Morgan a'i anturiaethau, a hanes unigolion sydd â chysylltiad ag ystâd Ystumllyn, Cricieth. Mae hi'n ymdrin â themâu sy'n berthnasol heddiw - perthyn, clymau, hunaniaeth, cenedlaetholdeb, hiliaeth a newid mewn oesau gwahanol.
Corn, Baton a Fi
ISBN: 9781913996826
£10.00
Dyma hunangofiant difyr ac afieithus. Mae'r awdur, John Glyn Jones yn gyfarwydd drwy Gymru fel cornetydd tan gamp, arweinydd band yr Oakeley am chwarter canrif, beirniad a sylwebydd bandiau pres. Yn y gyfrol hon cawn ei hanes o'i ddyddiau cynnar ym mhentref chwarelyddol Trefor, yng Ngholeg Cerdd Llundain a rhai o brif neuaddau cyngerdd Prydain. Cyfrol llawn hanesion a hiwmor.
Mochyn Tynged – Glenda Carr
ISBN 9781913996673
£9.00
Nofel ffantasi ffraeth, ddyfeisgar ar gyfer oedolion. Mi gawn ni gyfarfod Porchellan, tegan bach a brynir mewn siop Marks and Spencer yng Nghaerdydd. Ond nid tegan cyffredin mohono! Mae o eisoes wedi mwynhau bywyd difyr yng nghwmni'r dewin chwedlonol Myrddin. Cawn ymuno ag anturiaethau'r creadur bach hoffus, hunanbwysig a doniol yn llys Arthur, ac wrth hela'r Twrch Trwyth.
Llythyr Noel
ISBN 9781913996758
£10.00
Stori ysbrydoledig y postfeistr o Ynys Môn, Noel Thomas, a gafodd ei garcharu ar gam. Mae'n dweud ei stori am y tro cyntaf gyda chyfraniad dadlennol, hefyd, gan ei ferch, Sian. Dyma i chi stori Dafydd a Goliath go iawn - un dyn bach yn erbyn cawr y Swyddfa Bost. Hanes rhyfeddol am sut y llwyddodd Dafydd o'n cyfnod ni i lorio'r cawr mawr, er gwaetha'i holl bŵer a dylanwad.
Prawf MOT – Bethan Gwanas
ISBN 9781913996536
£9.95
Mae perthynas y ci defaid doeth, Mot, a'i berchennog, Lea yn un agos a chariadus. Ond, tybed fedrith Mot ddefnyddio'i ddoethineb a'i sgiliau i ddewis y cariad perffaith i Lea? Dyma nofel ysgafn, obeithiol a chynnes gan un o awduron gorau Cymru sy'n trafod cariad, ffyddlondeb a heneiddio.
Tyfu’n Gerddor – Alun Guy
ISBN 9781913996178
£9.95
Hunangofiant y cerddor a'r arweinydd carismatig sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r byd cerddorol yng Nghymru. Cawn ddilyn hanes ei yrfa ddisglair, y bobol a'r profiadau sydd wedi dylanwadu arno, pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol iddo a'i gyfarfyddiad difyr â Robert de Niro, Kiri Te Kanawa a Marisa Robles.
Cymro i’r Carn, Cofiant Gwilym Prys-Davies
ISBN 9781913996130
£12.95
Cofiant Gwilym Prys-Davies, gwleidydd craff a fu'n berson dylanwadol a phwysig yn hanes Cymru. Roedd yr awdur yn ei adnabod yn dda gan fod y ddau yn ffrindiau am dros hanner can mlynedd.
Llyfr y Flwyddyn – Mari Emlyn
ISBN 978-1-913996-63-5
£9.00
Nofel garlamus ydi hon am lên-ladrad. Pa mor bell y bydd Robin Richards yn fodlon mynd yn ei ymgais i wireddu ei uchelgais o fod yn arwr y byd llenyddol Cymraeg? Pwy fydd yn ceisio ei rwystro? A sut mae profi bod rhywun wedi dwyn syniad?
Sut Felly roedd o, Robin, am adael ei farc? Roedd sawl dull posib o wireddu’r freuddwyd fawr honno:
Chwarddodd Robin… Na, sgwennu campwaith amdani! Roedd ganddo gynllun…
BWRW DAIL
ISBN 978-1-913996-60-4
£9.00
Nofel fer drawiadol sy’n trafod cymhlethdodau cariad, galar, Cymreictod a chur ffarwelio â chartref oes. Llyfr y Mis Tachwedd 2022!
CAPTEN
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022
ISBN 978-1-913996-55-0
Yng ngwanwyn 1893 mae Elin Jones yn Llŷn yn hiraethu am ei gŵr John sydd i ffwrdd ar y môr ers dros flwyddyn. Ond, daw newydd annisgwyl am yr hyn a ddigwyddodd iddo. A hynny'n codi hen ofnau a heriau newydd ...
GAIR O GALONDID
ISBN 978-1-913996-61-1
£9.00
Dyma gyfrol fach hyfryd, llawn geiriau doeth, dyfyniadau bachog a cherddi cysurlon. Mae yma rhywbeth i godi calon pawb. Cyhoeddwyd er budd meddwl.org
BRAW AGOS
ISBN 978-1-913996-64-2
£9.95
‘Kiely ac O’shea. Dan ni’n swnio fel cwmni cyfreithwyr.’
‘Neu fusnes sgrap metal!’
‘Neu dditectifs.’
Daw’r ddau at ei gilydd ar hap i ddatrys dirgelion corff yn y llyn, gwelwn fod mwy na chwlwm Celtaidd yn uno Kiely ac O’shea.
Nadolig Pwy a Ŵyr
ISBN 978-1-90742-450-2
£7.95
Cyfrol o straeon byrion gan 10 awdur yn ymwneud â’r Nadolig. O’r cracers i flwmars Nain, o dristwch tlodi i wyliau sgïo drudfawr.
Nadolig Pwy a Ŵyr 2
ISBN 978-1-91217-322-8
£8.00
Dyma ail gyfrol o straeon byrion gan ddeg awdur yn ymwneud â’r Nadolig. O gystadleuaeth bwdinau Dolig, Raibina a Lambrini! Ac mae Melania Trump yn gwneud ymddangosiad hefyd!
Hen Chwedlau Newydd
£8.95
ISBN 978-1-913996-31-4
Cyfrol o straeon byrion sy’n gosod cymeriadau o fyd y chwedlau’n cynnwys Blodeuwedd, Olwen a Melangell yn ein byd ni heddiw. Dychmygus a dadlennol!
Eigra : Hogan Fach o’r Blaena
£9.95
ISBN 978-1-913996-11-6
Hunangofiant un o’r prif awduron, nofelydd, dramodydd a bardd.
Ryc
£9.95
ISBN 978-1-912173-35-8
Mae noson o hwyl diniwed yr olwg mewn clwb rygbi yn troi'n hunllef. Nofel afaelgar gan awdur hynod o dalentog.
Heb eu Tebyg
£9.95
ISBN 978-1-91399-636-9
Dyma Harri Parri ar ei orau – yn cyflwyno deg portread o bobol unigryw – pobol sydd wedi torri eu cwys eu hunain mewn bywyd.
Yr Eneth Gadd ei Gwrthod
£9.95
ISBN 978-1-91217-343-3
Nofel dditectif fydd yn ei cadw ar flaenau’ch traed dan y diwedd gan neb llai na Gwen Parrott sy’n feistres ar y genre.
Bedydd Tân
£9.95
ISBN: ISBN 978-1-913996-16-1
Nofel bwerus yn dilyn hanes y dyn papur newydd John Gough wrth iddo geisio datrys llofruddiaeth ac achub croen y diniwed.
Casa Cadwaladr
£15.00
ISBN 978-1-913996-30-7
Llyfr clawr caled llawn ffotograffau bendigedig gan y gogyddes Rhian Cadwaladr sy’n cynnwys cyfuniad llesmeiriol o atgofion a ryseitiau.
Y Dydd Olaf
£8.00
ISBN: 978-1-913996-14-7
Argraffiad newydd o’r gyfrol eiconig - y ffuglen wyddonol orau erioed yn Gymraeg. Yn cynnwys cyflwyniad gan Dr Miriam Elin Jones
Paned o De yn Georgia
£9.95
ISBN: 978-1-912173-41-9
Llyfr taith sy’n rhoi cip i ni ar gyfnod arbennig yn hanes Rwsia, ac yn codi cwestiynau am hunaniaeth, a diwylliant.
A:annisgwyl
£8.00
ISBN: 978-1-913996-37-6
Disgwyliwch yr annisgwyl yn y gyfrol ddifyr hon o straeon byrion sydd i gyd â thro yn y gynffon!
Can Curiad
£9.00
ISBN: 978-1-913996-15-4
Mae’r pethau mawr – bywyd a chariad – yn cael eu trafod yma mewn cant o straeon bychain bach gan ugain awdur cyfoes, dawnus.
Gair o Gysur
£9.00
ISBN 978-1-913996-12-3
Cyfrol yn cynnig cysur a chefnogaeth - o gerddi cyfoes i weddïau a chynghorion caredig - ac yn cynnwys ffotograffau lliw hyfryd.
Bydd Wych!
£4.95
ISBN: 978-1-912173-46-4
Llyfr clawr caled bach llawn cynghorion gwych ar gyfer byw a bod gan David Meredith. Anrheg gwych!
Gwirionedd, Elinor Wyn Reynolds
£8.95
ISBN: 978-1-912173-27-3
Nofel ysgubol sy'n cynnig golwg newydd ar un o ddigwyddiadau mawr bywyd. Mae'n llawn dagrau, direidi a dathlu, ond yn bennaf oll, mae'n gorlifo â chariad.
Eilun, Frank Olding
£8.00
ISBN: 978-1-912173-23-5
Casgliad hudolus o gerddi sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn nhir a hanes Cymru.
Gwyrddach, Mari Elin Jones
£9.95
ISBN: 978-1-912173-2-11
Llyfr lliw deniadol sy'n cynnig cynghorion defnyddiol i'n harwain tuag at fyw bywyd llai gwastraffus.
Glasynys, Ann Pierce Jones
£9.95
ISBN: 978-1-912173-17-4
Mae hi'n ddiwedd haf 1965, ac yn y nofel swmpus hon cawn ddilyn hanes Guto a Lilian, a'u plant Emyr a Mari, sy'n symud o'u cynefin ym Mhen Llŷn i gartref newydd, sef Glasynys, fferm ar bwys Conwy. Dianc y maen nhw rhag trasiedi teuluol. A fydd eu cartref newydd yn cynnig gobaith newydd iddyn nhw?
Chwant
£8.95
ISBN: 978-1-912173-18-1
Cyfrol o straeon byrion ar gyfer oedolion yn unig. Chwant ydi ’r thema ac mae’r deg stori yn cynnig amrywiaeth hynod o ddifyr sydd hefyd yn agoriad llygad! Yr awduron yw Bethan Gwanas, Sonia Edwards, Rhys Iorwerth, Sian Melangell Dafydd, Jon Gower, Aled Islwyn, Heiddwen Tomos, Izzy Rabey, Ifana Savill, Tony Bianchi.
Nain Nain Nain, Rhian Cadwaladr
£5.95
ISBN: 978-1-912173-3-03
Llyfr gwreiddiol hyfryd i blant 3-7oed. Mae Nedw yn arbennig o hoff o’i dair nain ond beth sy'n digwydd pan mae'n rhaid i Hen Nain Elsi symud i fyw i gartref preswyl?
Apostol, Dyfed Edwards
£9.95
ISBN: 978-1-912173-1-50
Nofel rymus am un o gymeriadau mawr Cristnogaeth, yr Apostol Paul. Mae Dyfed Edwards yn cynnig dehongliad heriol o fywyd a gwaith Paul ac yn gorfodi'r darllenydd i ail edrych ar y dyn cymhleth hwn. Unwaith eto, fel yn ei nofel Iddew, mae Dyfed Edwards yn gwthio'r ffiniau.
Nadolig pwy a ŵyr 2
£8.00
ISBN: 978-1-912173-2-28
Ail gyfrol o straeon byrion i gyd yn ymwneud â'r Nadolig. Anrheg berffaith ar gyfer teulu a ffrindiau! Awduron: Lleucu Roberts, Marlyn Samuel, John Gruffydd Jones, Non Mererid Jones, Gwenni Jenkins-Jones, Cefin Roberts, Anwen Pierce, Bet Jones, Caryl Angharad, Manon Wyn Williams.
Llwybrau’r Cof, Elen Wyn Roberts
£15.00
ISBN: 978-1-912173-1-43
Llyfr anrheg i'w drysori. Y nod yw annog y rhai sy'n dechrau colli eu cof i rannu eu hatgofion. Llyfr defnyddiol ar gyfer aelodau o'r teulu, gofalwyr a ffrindiau, a llyfr, hefyd, a fyddai'n gwneud anrheg ardderchog ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno nodi atgofion a chreu llyfr teuluol hardd i'w basio mlaen i'r genhedlaeth nesaf.
Eira Llwyd, Gareth Evans-Jones
£6.00
ISBN: 978-1-912173-136
Llyfr anrheg i'w drysori. Y nod yw annog y rhai sy'n dechrau colli eu cof i rannu eu hatgofion. Llyfr defnyddiol ar gyfer aelodau o'r teulu, gofalwyr a ffrindiau, a llyfr, hefyd, a fyddai'n gwneud anrheg ardderchog ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno nodi atgofion a chreu llyfr teuluol hardd i'w basio mlaen i'r genhedlaeth nesaf.
Cardiau Post, Gerwyn Wiliams
£7.95
ISBN: 978-1-912173-1-29
Cyfrol liwgar, apelgar gyda'r bardd yn sylwi ar droeon bywyd ac yn cynnig yr annisgwyl.
Celwydd Oll, Sian Northey
£8.00
ISBN: 978-1-912173-1-05
Cyfrol ddifyr o straeon cyfoethog a chynnil sydd i gyd wedi eu hysbrydoli gan ddigwyddiad go iawn - boed hynny yng Nghymru neu mewn gwlad arall.
Glaw Trana, Sonia Edwards
£8.00
ISBN: 978-1-907424-9-60
Nofel rymus a gafaelgar sy’n cyffwrdd y galon. Mae peryglon mewn cadw hen gyfrinachau. A fydd Now a Lois yn talu’r pris am weithredoedd eu rhieni? Dilyniant i Mynd Adra’n Droednoeth yw’r nofel hon ond mae’n sefyll ar ei thraed ei hun.
Sgythia, Gwynn ap Gwilym
£12.95
ISBN: 978-1-907424-9-84
Chwip o nofel hanesyddol sy’n dilyn stori'r ysgolhaig o glerigwr, John Dafis, a fu’n rheithor ym Mallwyd o 1604 hyd ddiwedd ei oes. Mae’r awdur wedi llwyddo i weu hanes a ffuglen yn hynod o lwyddiannus, ac o’r herwydd, mae Mallwyd a bro Mawddwy yn dod yn fyw.
Cwcw, Marlyn Samuel
£9.00
ISBN: 978-1-912173-0-44
Nofel gyfoes am ddwy hanner chwaer sy’n cyfarfod am y tro cyntaf yn angladd eu tad. Stori ddifyr gan awdures boblogaidd sy’n plethu’r doniol a'r dwys.
Pobl i'w Hosgoi, Ruth Richards
£7.95
ISBN: 978-1-907424-9-53
Straeon byrion cyfoes, yn gymysgedd o’r crafog, y dychanol a’r doniol. Maen nhw i gyd yn ymdrin â phobol ar y cyrion. Cyfrol arbennig gan awdur y nofel boblogaidd, Pantywennol.
Rhannu Ambarel, Sonia Edwards
£8.95
ISBN: 978-1-912173-0-06
Cyfrol o straeon byrion yn trafod cariad – ei dynerwch a’i greulondeb – gan awdur sy’n adnabod pobol. Mae ei chymeriadau yn cyffwrdd â'n calonnau ac yn aros yn y cof am amser maith. Cyfrol Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol 2017.
Porth y Byddar, Manon Eames
£10.95
ISBN: 978-1-912173-0-51
Nofel gyntaf y dramodydd a’r sgriptiwr llwyddiannus, Manon Eames, sy’n olrhain hanes dirdynnol boddi Cwm Tryweryn. Cawn ein taflu i ganol emosiwn a chythrwbl y cyfnod pwysig hwn yn hanes Cymru.
O, MAM BACH!
£8.00
ISBN: 978-1-907424-9-46
Cyfrol sy'n dathlu cyfraniad amhrisiadwy’r Fam i’n cymdeithas. Mae’n gymysgedd o straeon byrion, ysgrifau a llên micro. Anrheg ardderchog ar gyfer unrhyw ddiwrnod, ac ar gyfer Sul y Mamau! Yr awduron yw Alys Conran, Fflur Medi Evans, Eurgain Haf, Mary Hughes, Sian James, Catrin Lliar Jones, Marred Glynn Jones, Haf Llewelyn, Bethan Lloyd, Rebecca Roberts, Ifana Savill, Manon Steffan Ros ac Angharad Tomos.
Sgin ti fonolog?, Cefin Roberts
£7.95
ISBN: 978-1-912173-0-68
Cyfrol o fonologau gwreiddiol ar gyfer pobol ifanc wedi eu hysgrifennu gan un sydd wedi bod yn ei chanol hi yn y byd perfformio ers blynyddoedd. Ceir yma hiwmor a dwyster, a’r cyfle i fachu cynulleidfa!
Cannwyll yn Olau, Harri Parri
£12.00
ISBN: 978-1-912173-0-99
LLlyfr lliw llawn hynod o ddiddorol yn cyflwyno hanes John Puleston Jones, person dawnus, deallus a huawdl oedd yn cael ei adnabod fel 'Y Pregethwr dall'. Gan ei fod yn heddychwr, roedd yn dipyn o ddraenen yn ystlys John Williams, Brynsiencyn, a hynny yng nghyfnod y Rhyfel Mawr.
Milgi Maldwyn, Beryl Vaughan
£10.00
ISBN: 978-1-907424-9-77
Cyfle i ail fyw taith ddifyr o amgylch arfordir Cymru yng nghwmni Milgi Maldwyn, Beryl Vaughan, wrth iddi hel arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Llyfr lliw llawn lluniau.
Cyffordd i Gyffordd, Ian Parri
£9.95
ISBN: 978-1-907424-90-8
Dyma gyfle gwych i deithio Cymru yng nghwmni hen hac ffraeth! Ar ôl llwyddo i osgoi'r A470, neidio ar drên mae Ian Parri y tro hwn i fynd ar drywydd mannau a phobol ddifyr. A'r enwog Dyfi Jyncshiyn ydi dechrau a diwedd y daith.
Aderyn Prin, Elen Wyn
£8.95
ISBN: 978-1-907424-92-2
Nofel gyfoes a chyffrous. Mae Lena yn aderyn prin – Cymraes o bentref Waunfawr yng Ngwynedd sy'n gweithio fel swyddog i'r FBI. Ond yng Nghymru y bydd hi'n dod wyneb i wyneb â'i elyn pennaf.
Llyfr Bach Paris, Lara Catrin
£9.00
ISBN: 978-1-907424-89-2
Caffis, dynion golygus, gwin, ffasiwn. Dewch i brofi bywyd yn y Paris go iawn yng nghwmni Cymraes ifanc fu'n byw yno am ddwy flynedd. Llyfr gan awdures newydd sy'n chwa o awyr iach.