About Us
Translation coming soon...
Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau poblogaidd.
Prif gynnyrch Gwasg y Bwthyn yw nofelau o bob math, casgliadau o storïau, ysgrifau, cofiannau a hunangofiannau.
Ein nod yw apelio at bob math o ddarllenwyr yn eu tro a darparu llyfrau safonol ar gyfer y farchnad lyfrau Cymraeg.
Darllenadwy. Diddorol. Dadlennol. Difyr. Doniol! Da eu diwyg.
Gwerth bob ceiniog.
Dyna lyfrau Gwasg y Bwthyn.
A ydi’r wasg yn croesawu awduron newydd?
Fel gwasg sy’n effro i holl amrywiaeth y Gymru gyfoes, mae Gwasg y Bwthyn yn croesawu gwaith gan awduron newydd
a chan awduron a gefndiroedd a dangynrychiolir yn draddodiadol mewn llyfrau Cymraeg.
A allaf yrru gwaith yn ddigymell at y wasg?
Mae croeso i awduron newydd anfon enghraifft o’u gwaith atom yn ddigymell i’w hystyried. Awgrymwn eich bod yn cynnwys sampl o’r cynnwys a chrynodeb o weddill y gwaith.
Byddai hefyd yn ddefnyddol ichi gynnwys CV byr yn rhoi mwy o wybodaeth amdanoch eich hun.
Pa mor sydyn y dylwn i ddisgwyl clywed gan y wasg?
A ninnau’n wasg fach brysur a chynhyrchiol, bydd sydynrwydd yr ymateb yn ddibynnol ar ein llwyth gwaith ar y pryd.
Ond byddwn yn anelu at ymateb yn llawn i’ch cais ymhen cyn gynted ag y gallwn.