Polisi Preifatrwydd

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Gwasg y Bwthyn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i ni pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon. Mae Gwasg y Bwthyn wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu.

Pryd ydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch a beth rydym yn ei gasglu?

Rydym yn casglu ac yn prosesu data personol pan fyddwch yn:

  • ymwneud â ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • cysylltu â ni mewn unrhyw ddull i wneud ymholiad, cwyn ac ati.
  • cystadlu mewn cystadlaethau.
  • tanysgrifio i dderbyn cylchlythyr Gwasg y Bwthyn

Mae'r math o ddata yr ydym yn ei gasglu yn cynnwys:

  • eich enw, eich cyfeiriad(au), e-bost a rhif ffôn.
  • manylion unrhyw gwynion neu sylwadau a wnaethoch drwy e-bost, ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol

Pryd bynnag yr ydym yn casglu neu yn prosesu eich data personol, dim ond cyhyd ag y mae ei angen ar gyfer y diben y'i casglwyd y byddwn yn ei gadw.

Nid ydym yn gwerthu unrhyw wybodaeth bersonol i drydydd partïon. Dydyn ni erioed wedi, a fyddwn ni byth yn gwneud.

Sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol

Rydym eisiau rhoi'r profiad cwsmer gorau posibl i chi.

Mae cyfraith preifatrwydd data yn caniatáu hyn fel rhan o'n ddiddordeb dilys ni mewn deall ein cwsmeriaid a darparu'r lefelau gorau o wasanaeth.

Gallwch ofyn am ddileu eich data ond os byddwch yn dewis peidio â rhannu eich data personol gyda ni, neu yn gwrthod rhai hawliau cysylltu, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt.

Dyma sut rydym yn defnyddio eich data personol a pham:
  • Gyda'ch caniatâd chi, i roi gwybod i chi drwy e-bost am nwyddau a gwasanaethau perthnasol, gan gynnwys cynigion arbennig, gostyngiadau, digwyddiadau, Lansiadau ac ati.
    Mae croeso i chi derfynu eich tanysgrifiad i'n cylchlythyr ar unrhyw adeg. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio'r ddolen 'dad-danysgrifio' ar waelod unrhyw e-bost hyrwyddo a anfonwyd gan Gwasg y Bwthyn.
  • I weinyddu unrhyw wobrau neu gystadlaethau yr ydych wedi cystadlu ynddynt.