Llongyfarchiadau lu i ddau o awduron Y Bwthyn ar gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni (Welsh Only)

Seren Dolma gyda ei nofel dychmygol llawn antur a chariad - Y Nendyrau a Malachy Owain Edwards gyda ei hunangofiant sy'n trafod profiadau mawr bywyd megis hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylledig wth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados - Y Delyn aur.

Balch iawn o'r ddau.

Mae cyfle i ddarllenwyr gael dweud eu dweud a phleidleisio dros eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â golwg360, a gallwch bleidleisio drwy wefan golwg360.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Galeri yng Nghaernarfon ar Orffennaf 4ydd 2024.

 

(Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2024 – Golwg360)

Y Delyn Aur - Malachy Owain Edwards

 

 

 Y Nendyrau - Seren Dolma

Back to view all stories.