Cyhoeddi Llythyr Noel

Welsh only...

Hoffwn eich gwahodd i noson ddifyr yng nghwmni Noel thomas a'i deulu i ddathlu cyhoeddi Llythyr Noel. Stori ysbrydoledig y postfeistr o Ynys Môn, Noel Thomas, a gafodd ei garcharu ar gam. Mae'n dweud ei stori am y tro cyntaf gyda chyfraniad dadlennol, hefyd, gan ei ferch, Sian. Dyma i chi stori Dafydd a Goliath go iawn - un dyn bach yn erbyn cawr y Swyddfa Bost. Hanes rhyfeddol am sut y llwyddodd Dafydd o'n cyfnod ni i lorio'r cawr mawr, er gwaetha'i holl bŵer a dylanwad.

 
Ymunwch â ni yn y dathlu -
 
Nos Fercher, 26 Ebrill
7yh
M-SParc, Gaerwen

 

Bydd cyfle i brynu copi o’r llyfr ar y noson gan siop Awen Menai.

Back to view all stories.