Cartref newydd
Bu ail hanner 2021 yn gyfnod o newid mawr yn hanes Gwasg y Bwthyn.
Yn sgil y pandemig a’r crebachu cyson yn y galw am waith argraffu penderfynwyd dod â’r argraffu i ben. Aed ati i ailstrwythuro’r busnes gan benderfynu canolbwyntio ar gyhoeddi’n unig o hyn ymlaen. Symudodd Gwasg y Bwthyn i’w swyddfa newydd ar y Maes yng Nghaernarfon ym mis Medi, ac rydym wedi cartrefu’n hapus iawn yno. Da meddwl fod yna bresenoldeb cyhoeddi o hyd ym Mhrifddinas yr Inc.