Hanes
Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffrwydrodd brwdfrydedd ac awydd pobl o bob cefndir i gael gafael ar bapurau newydd, cylchgronau a llyfrau. Tyfodd y boblogaeth lythrennog, ac i ysgolion Sul y capeli anghydffurfiol roedd y diolch pennaf am hynny.Yng nghanol y berw poeth yma roedd Caernarfon – Prifddinas yr Inc – â’i argraffdai lluosog yn y dref yn cynhyrchu pob math o bapurau newydd a chylchgronau adloniadol, gwleidyddol a chrefyddol.
Ymunodd y Methodistiaid Calfinaidd â’r berw poeth yma yn sgîl prynu ‘The Welsh Printing Co.’ yng Nghaernarfon, gan sefydlu gwasg eu hunain oedd yn argraffu a chyhoeddi eu llyfrau a’u cylchgronau. Dyma wreiddiau Gwasg Pantycelyn, rhagflaenydd Gwasg y Bwthyn. Parhaodd yr arlwy yma i fod â phwyslais crefyddol hyd yr unfed ganrif ar hugain, pan orfodwyd y cyfarwyddwyr i dderbyn bod arferion darllen a chwaeth pobl wedi newid. Dyma pryd y penderfynwyd sefydlu gwasg newydd annibynnol, yn argraffu a chyhoeddi ar ei liwt ei hun sef Gwasg y Bwthyn.
Ym mis Medi 2021 rhoddodd Gwasg y Bwthyn y gorau i argraffu ac mae’r swyddfa wedi symud i 36 Y Maes, Caernarfon. Mae’r pwyslais wedi newid oddi wrth deitlau crefyddol erbyn hyn; deunydd poblogaidd a gyhoeddir, yn nofelau, ysgrifau, storïau, hunangofiannau a mwy. Trwy feithrin awduron cyffrous a chyhoeddi teitlau sy’n adlewyrchu ein byd heriol a’n diddordebau amrywiol ein nod yw llenwi bwlch yn y farchnad a darparu deunydd darllen sy’n plesio ystod eang o ddarllenwyr.
Gwybodaeth bellach
Y wasg gyfnodol yn nhref Caernarfon hyd 1875, gyda sylw arbennig i argraffwyr a chyhoeddwyr. R. Maldwyn Thomas
The periodical press in the town of Caernarfon to 1875, with particular emphasis on printers and publishers. R Maldwyn Thomas