Gwobrau LLyfr y Flwyddyn 2026
Mewn seremoni hyfryd ar noson braf o haf yn Galeri eleni, daeth dau o’n hawduron i’r brig yng nghategori Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Yn ogystal â'r prif wobrau, cafodd gwobrau eu cyflwyno mewn categorïau Ffuglen, Barddoniaeth, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda’r brif wobr eleni yn mynd i Mererid Hopwood gyda’r chyfrol, Mae. (Barddas)
Enillodd Iestyn Tyne y wobr Ffeithiol Greadigol gyda’i gyfrol Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau 'Atgof' Prosser Rhys, sy'n ail-ddilyn taith y bardd Prosser Rhys gan archwilio llenyddiaeth LHDTC+, rhagfarn a hunaniaeth.
Enillodd Sonia Edwards y wobr Ffuglen gyda Tri, nofel drosedd sy'n dilyn cyfres o farwolaethau dirgel.
Llongyfarchiadau lu i’r ddau ar eu llwyddiant. Mae’r amser wedi dod eto i ni gyflwyno ein ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth 2027!




Comments