Ffrwyth yn cipio’r Fedal!
Mae Gareth eisoes wedi ennill y Fedal Ddrama ddwywaith o'r blaen ac roedd 28 o ymgeiswyr eleni mewn cystadleuaeth "o safon uchel iawn", ond dywedodd y beirniaid bod y gwaith yn haeddu ennill "am ei chynfas eang, ei chwareustra, a'i dyfeisgarwch".
Ond ar ôl trafod yn frwd, dywedodd Meleri Wyn James bod gwaith Isha yn dod i'r brig.
Mae'n "nofel hynod" sy'n "dechrau yn y dechreuad" gyda chymeriad Beiblaidd, Efa, meddai.
"Mae'r ieithwedd yn llafar, bron yn blentynnaidd wrth i Efa ddechrau synhwyro gweld, arogli a phrofi'r byd mae'n byw ynddo.
"Mae'r arddull yn aeddfedu'n naturiol wrth iddi ddysgu am y byd o'i chwmpas gan adrodd stori dynoliaeth o enau'r ddynes gyntaf a hynny nes ein hoes ni heddiw, AI a'i holl heriau."
Dywedodd mai geiriau'r beirniad Angharad Price oedd bod y llenor wedi "cyflwyno testament amwys i ddynoliaeth i ni, ynghyd ag ymateb creadigol trawiadol i rai o heriau mawr ein hoes".
"Dywed Iwan mai dyma gampwaith y bydd rhywun am ddychwelyd ato i chwilio am fwy a'i ganfod dro ar ôl tro."
Ai gelyn i'w amau neu gyfaill i'w groesawu yw'r llais sy'n estyn llaw? Dyna'r cwestiwn a wyneba'r Efa oesol a ailddychmygir yn yr alegori bwerus hon. A hithau'n wynebu dilema tyngedfennol, a fydd hi'n ildio yn y diwedd i demtasiwn ac yn bwyta ffrwyth y pren neu beidio?
Ydych chi wedi prynu copi eto? Mae Ffrwyth ar gael rŵan yn eich siop lyfrau lleol ac ar-lein.



Comments