Diolch, Dewi
- Fiona Williams

- Jun 17
- 1 min read

Un o fil.
Diolch i’r gŵr arbennig hwn, Dewi Williams, am roi 23 mlynedd o wasanaeth i Wasg y Bwthyn, nifer fawr ohonyn nhw’n wirfoddol fel Swyddog Cyllid. Heb gyfraniad o’r fath, ni allai’r wasg weithredu. Rydan ni’n gwerthfawrogi’n arw ddiwydrwydd tawel a llafur anhunanol yr aelod allweddol hwn o’r tîm ac yn dymuno ymddeoliad haeddiannol iddo. Bu’n fraint ac yn bleser cael cydweithio efo chi, Dewi!
Diolch, Dewi!

Comments