dyma ni
Staff Gwasg y Bwthyn

Golygydd Creadigol Rhan Amser
Gerwyn Williams
Yn ddisgybl deuddeg oed yn Ysgol Gyfun Llangefni, rwy’n cofio tasg ddosbarth sef llunio cerdd a hynny ar gais athro-fyfyrwraig ifanc. Hithau wedyn yn ei sylwadau yn awgrymu bod gen i ddawn greadigol – rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi meddwl amdano o’r blaen a neb arall wedi ei awgrymu chwaith. Ond mi fu’r weithred fach honno – adnabod talent a’i hannog – yn hwb hollbwysig imi. Fel darlithydd ac yn ddiweddarach, fel golygydd creadigol, mae’r cyfle i gymell creadigrwydd, ei gefnogi a’i gyfeirio, wastad wedi rhoi pleser imi. Rhywbeth arall sydd wedi fy ysgogi ydi gwaith awduron lu, a phetai raid imi enwi un arwr llenyddol yna Gwyn Thomas fyddai hwnnw. Rhwng y dwys a’r digri, y llenyddol a’r llafar, dyma ichi un a fyrlymai â chreadigrwydd. Ac os profodd Gwyn un peth drwy gyfrwng ei gerddi niferus, profodd drwy ei ddefnydd hyderus o’r Gymraeg ei bod hi’n gallu bod yn iaith pob dim dan haul.

Golygydd Creadigol Rhan Amser
Mari Emlyn
Dwi’n caru llyfrau! Dwi’n credu bod llyfrau’n gallu agor y drws i newid a chyfoethogi bywydau. Mae’r broses o greu llyfrau’n hynod ddiddorol a’r sgwrs gyntaf efo awdur, a gweld rhyw hedyn bach o syniad yn blaguro, yn rhoi gwefr i mi. Dwi’n ffodus iawn o fod wedi cael cydweithio ag awduron y tu hwnt o ddawnus a chlên ers i mi gychwyn fel Golygydd Creadigol i Wasg y Bwthyn yn 2023! Diolch i’n hawduron am barhau i sgwennu trwy gyfrwng y Gymraeg. Oes, mae heriau wrth gwrs, ond gyda thîm da, brwdfrydedd ac egni, gall y daith at gyhoeddi llyfr fod yn un o’r rhai gorau! A f’arwr llenyddol? Mae llawer. Ond T. Llew Jones a fagodd ynof fi’r awch a’r angerdd at ddarllen straeon. Galluogodd i’r print du a gwyn o fewn cloriau ei lyfrau droi’n lluniau llawn lliw.

Swyddog Marchnata
Fiona Eluned Williams
Dwi wrth fy modd yn gneud be dwi’n neud fel Swyddog Marchnata Gwasg y Bwthyn. Does 'na’m byd i guro cydweithio efo awduron, a chael dod i’w nabod nhw a’u straeon a’u gweld yn llwyddo. Ond does dim pwynt cyhoeddi llyfrau da os nad oes pobl yn eu prynu nhw! A dyna’r her! Mae’r byd marchnata yn fyrlymus ac yn newid yn gyson, ond dwi’n cael gwefr wrth gynllunio strategaethau creadigol ar gyfer hyrwyddo holl lyfrau’r wasg a’u gweld yn hedfan oddi ar y silffoedd. Dan ni’n un teulu bach yma ac mae’r drws wastad ar agor os oes gen ti syniad am lyfr!
Aelodau Bwrdd Gwasg y Bwthyn

Cadeirydd
Dylan Roberts
Fe'm ganwyd yn Capel Hendre yn Sir Gaerfyrddin, lle roedd fy nhad yn weinidog, cyn symud i Aberporth ger Aberteifi. Yna symud i Fanceinion. Mynd i'r brifysgol yn Aberystwyth cyn dechrau gweithio i Gymdeithas Adeiladu yng Nghaernarfon. Wedi gweithio yn y byd ariannol ers tua deugain mlynedd, y deunaw diwethaf yn rhedeg fy nghwmni cynghori ariannol fy hun, sef Canllaw yng Nghaernarfon. Wedi bod ar Fwrdd Gwasg Y Bwthyn ers blynyddoedd lawer ac yn Gadeirydd ers cyn cof! Rwyf yn hoff o gerddoriaeth o bob math ac yn mwynhau mynychu cyngherddau, yn enwedig Bruce Springsteen. Mae gennyf docyn tymor yn Old Trafford ers tua deng mlynedd ar hugain ac yn hoff o ddilyn tîm pêl droed Cymru, ac wedi bod yn Ffrainc yn 2016 ac yn Qatar yng Nghwpan y byd. Rwyf yn briod â Eleri ac mae ganddom ddwy o ferched, Meinir a Rhiannon.

Is-Gadeirydd
Merfyn Morgan
Fe’m magwyd ym mhentref Capel Iwan yn Sir Gaerfyrddin ond yn byw yng Nghaernarfon ers dros ddeugain mlynedd Bellach. Astudiais yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor a graddio yn y Gymraeg. Enillais radd MA am draethawd ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac yn ddiweddarach M.Addysg ym maes addysg alwedigaethol o Brifysgol Manceinion. Rwy’n aelod cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Ar ol cyfnod fel ymchwilydd ac is-olygydd i Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru, mentrais i faes addysg bellach a dysgu'r Gymraeg i oedolion. Yna cael swydd fel swyddog datblygu/cyfarwyddwr prosiectau gyda CBAC/Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg yn canolbwyntio ar weithio gyda cholegau addysg bellach Cymru ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac adnoddau dysgu ac addysgu i gefnogi hynny. Yn y blynyddoedd wedi hynny ro’n i’n bennaeth safonau galwedigaethol cenedlaethol yn Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru. Yn ystod fy nghyrfa bues yn diwtor gwirfoddol yng Nghanolfan Nantgwrtheyrn am sawl blwyddyn ac yn aelod o'i Bwrdd; aelod o Fwrdd Cwmni Gyrfa Gogledd Orllewin Cymru a chadeirydd gweithgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, cynrychiolydd Cymru ar brosiect rhanbarthau Ewrop ar gwricwlwm ac asesu yn y sector galwedigaethol, aelod o weithgor Llywodraeth Cymru ar adolygu'r ddarpariaeth dysgu Cymraeg i oedolion, aelod o Fwrdd Ymgynghorol y Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg, aelod o amryw weithgorau datblygu adnoddau dysgu, ysgrifennydd a thrysorydd Theatr Seilo, Caernarfon. Yn fy amser hammden, rwy’n mwynhau garddio, mynd ar deithiau cerdded, teithio i wledydd tramor, gwylio rygbi, cynorthwyo gyda gweithgareddau yn Theatr Seilo, a threulio amser yng nghwmni'r wyrion. Aelod o Fwrdd Gwasg y Bwthyn ers 2015.

Aelod Bwrdd
Einir Young BSc. PhD.
Wedi ei geni yn y Rhondda a’i magu yn Llanelli a Chwmtwrch mae Einir wedi byw a gweithio yng Ngwynedd ers dros dri deg mlynedd a bellach wedi ymgartrefu yn Llithfaen. Yn Rhagfyr 2020 fe ymddeolodd o’i swydd fel Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor gan gadw cyfrifoldeb rhan-amser am brosiect Ecoamgueddfa Llŷn, sydd bellach wedi ennill ei blwyf gyda’r model cydweithio hwnnw yn lledu yn ehangach i ardaloedd eraill yng Ngwynedd a thu hwnt. Yn ystod ei gyrfa bu’n arwain a chydlynu prosiectau rhyngwladol mawr, yn gweithio gyda ffermwyr a chymunedau ymylol yn ardaloedd cras y byd yn Affrica yn bennaf. Bu hefyd yn gweithio am gyfnod ym Mhrifysgol Davis, California. Wedi rhoi’r gorau i’r teithio bu hi a’i thîm yn canolbwyntio ar brosiectau datblygu cynaliadwy yng Nghymru gan gynghori dros fil o gwmnïau bach a chwmnïau mwy ar egwyddorion cynaliadwyedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd ystod y busnesau yn amrywio o gwmnïau micro, cymdeithasau tai a safleoedd cwmni Magnox Wylfa a Thrawsfynydd. Bu’n aelod o Bwyllor Safonau Cyngor Gwynedd am dros ddeng mlynedd a daeth ei chyfnod fel cadeirydd y pwyllgor hwnnw i ben ym Mis Hydref 2022. Bu hefyd yn aelod o fwrdd Ynni Cymunedol Cymru ac yn un o is-gadeiryddion yr Academi Heddwch. Ar hyn o bryd mae’n aelod o Cymunedoli ac yn gyd-gadeirydd Fforwm Twristiaeth Gwynedd, Môn a Chonwy, yn cynrychioli’r sector cymunedol. Diddordebau: Mae Einir yn mwynhau cerdded llwybrau hir fel Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Llechi Eryri. Cymaint o lwybrau, cyn-lleied o amser! Mae hi hefyd yn mwynhau coginio, gwaith llaw a theithio. Yn y misoedd nesaf mae’n edrych ymlaen at roi mwy o sylw i’r ardd. Penodwyd i’r bwrdd: 24 Mawrth 2022 Arbenigedd: datblygu cynaliadwy, rheoli prosiectau, datblygu strategaeth

Aelod Bwrdd
Malarchy Owain Edwards
Cefais my magu yn Ffynnon Tâf ond Bellach yn byw yn Ynys Môn gyda’r teulu bach. Braint yw cael fy adnabod fel awdur Y Delyn Aur (2023) a Paradwys Goll sy’n olrhain hanes fy nheulu. Rwyf yn golofnydd i gylchgrawn Golwg ac yn aelod annibynnol ar Gomisiwn Cymunedau Cymraeg (yr ail gam) a chyhoeddwyd eu hadroddiad ym Mawrth 2026. Mae gen i hefyd brofiad fel llywodraethwr ysgol a Cadeirydd ysgol gynradd Parc Ninian yng Nghaerdydd. Rwyf hefyd yn Is-gadeirydd Am, sef cartref digidol diwylliant Cymru. Penodwyd i’r bwrdd: 2024

Swyddog Cyllid Gwirfoddol ac Aelod Bwrdd
Rhys Harris BSc FCA
Ganed Rhys Harris yn Yr Alltwen, Cwmtawe. Mynychodd Ysgol Ramadeg Pontardawe ac wedyn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Graddiodd mewn Amaeth o Brifysgol Aberystwyth yn 1979. Aeth i weithio at gwmni o gyfrifwyr yn Abertawe, Deloitte Haskins & Sells lle cymhwysodd fel cyfrifydd siartredig yn 1984. Symudodd wedyn I Gaernarfon lle aeth i weithio at WJ Matthews a’I Fab am 2 flynedd cyn ymuno ag Owain Bebb a’I Gwmni yn 1988. Daeth yn bartner yn 1990. Wedi marwolaeth y sylfaenydd, Owain Bebb yn 2002, daeth Rhys yn bennaeth y cwmni. Ymddeolodd Rhys yn 2022 pan werthodd y cwmni I Emyr Mortimer Cyf. Yn ogystal a’i waith bob dydd fel cyfrifydd ac archwiliwr, mae Rhys wedi cael profiad health o fod yn drysorydd, cyfarwyddwr ac yn ymddiriedolwr ar nifer o gwmniau, elusennau a chymdeithasau gwirfoddol. Diddordebau Rhys yw garddio, seiclo, carafanio a physgota.

Aelod Bwrdd
Dewi Williams
Cefais fy ngeni am magu ym Mhenygroes ond wedi priodi a byw yng Nghaernarfon ers 54 o flynyddoedd. Dechreuais fy ngyrfa ym Mhorthmadog gyda Gwynedd Farmers ac yna cael swydd gyda Chyngor Tref Caernarfon yn 1964 yna Arfon 1974 a Gwynedd yn 1996 fel Ysgrifennydd Ardal Arfon a Dirprwy Swyddog Canlyniadau (Etholiadau). Ymddeol yn gynnar yn 2003 ond cael galwad yn ol fel Cofrestrydd Arolygol rhan amser tan 2019. Hefyd Swyddog Cyllid y Wasg o Hydref 2003 tan Ebrill 2026. Wedi bod yn ymwneud a Hospis yn y Cartref a Hospis Dewi Sant am dros 30 mlynedd ac yn Drysorydd Plwyf Llanbeblig ers 2012.
