Croeso i wefan Gwasg y Bwthyn
Gwasg y Bwthyn – cartref llyfrau o safon
Cyhoeddwyr Llyfrau
Rydym bob amser yn croesawu awduron, ac yn barod i ddarllen deunydd a rhoi barn.
Mae ein cynnyrch yn cynnwys nofelau, storïau, ysgrifau, hunangofiannau a llawer mwy!
Rydym yn cynnig gwasanaeth golygu a phrawf ddarllen ar gyfer llyfrau preifat.
Cysylltwch â ni am sgwrs.
Cyhoeddi : Golygu : Prawf ddarllen : Dehongli
Llyfr y Mis

Ar Adain Can
Nofel hanesyddol sy'n stori garu, ac yn llawer mwy. Wedi ei gosod yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, mae'n dilyn hynt cantores ifanc o ardal Clydach a'i pherthynas â Sais ifanc o gefndir hollol wahanol. Yn gefndir i'w stori mae bywyd Cwm Rhondda, y Rhyfel Cartref yn Sbaen a bywyd lliwgar Llundain - o’r Academi Gerddorol i'r clybiau nos.