Tîm y Bwthyn yn tyfu

Yn y llun gwelir Marred yn cyflwyno, Tomos, aelod diweddara tîm y Bwthyn, i’w chyd-olygydd Meinir. Dim ond tri mis oed ydi Tomos ond mae’n edrych ymlaen yn barod at gael ymuno efo Marred a Meinir yn y swyddfa pan fydd o ychydig bach yn hŷn i roi help pawen. Tynnwyd y llun ddiwrnod lansio Prawf MOT, nofel newydd Bethan Gwanas gan y ffotograffydd Richard Jones.  

Yn ôl i weld y rhestr.