RHESTR FER LLYFR Y FLWYDDYN!
Rydyn ni yng Ngwasg y Bwthyn wrth ein boddau fod hunangofiant yr awdur Eigra Lewis Roberts wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Ffeithiol Greadigol yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2022.
Llongyfarchiadau mawr i chi, Eigra, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld beth fydd hynt y gyfrol arbennig hon yn y rownd derfynol.
Noddir y gystadleuaeth gan Llenyddiaeth Cymru