Nofel gyntaf gan yr awdur ifanc Llŷr Titus PRIDD

Mae awdur ifanc o Benrhyn Llŷn wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion.

Cafodd ei disgrifio gan yr awdur a’r ysgolhaig Dr Angharad price fel

“darn o ysgrifennu rhyfeddol”

 

Nofel fer drawiadol yw Pridd sy’n bortread byw, ac effeithiol o gynnil, o gymeriad unigryw a’r newid yng nghefn gwlad. Ynddi ceir darlun cignoeth ond cyfareddol  o fywyd Hen Ŵr yng nghefn gwlad Llŷn. Wrth ddarllen deuwn ar draws trysorau bach o ddweud arbennig, dro ar ôl tro, sydd yn bleser pur.

 

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Meddai am y nofel:

 'Mae Pridd yn agos at fy nghalon i, fe gafodd hi ei hysbrydoli gan fy milltir sgwâr a’r syniad o berthyn, perthynas pobl â lle a sut mae’r naill yn siapio’r llall.'

 

Enillodd yr awdur Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, wobr Tir na Nog yn 2016.

 

Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama ‘Drych’ gan gwmni’r Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr Cwmni drama’r Tebot. Sefydlodd ar y cyd yn ogystal gylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp a bu’n un o olygyddion y cylchgrawn a rhai cyhoeddiadau. Mae newydd gwblhau ei ddoethuriaeth ym maes Astudiaethau Celtaidd. Yn ogystal â llenydda ac astudio mae hefyd yn gweithio fel ymchwilydd a sgriptiwr teledu.

Yn ôl i weld y rhestr.