Nofel gyntaf ar restr fer Llyfr y Flwyddyn
Mae Elinor Wyn Reynolds o Gaerfyrddin wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn gyda’i nofel gyntaf.
Fe ysgrifennodd y nofel Gwirionedd yn fuan ar ôl colli ei thad, ac mae’r profiad hwnnw wedi esgor ar waith arbennig sy’n cribinio’n ofalus gerigos mân profiad a ddaw i ran pob un ohonom sef marwolaeth rhywun yr ydym yn ei garu.