Cofio Gareth wyn Williams
Ddeuddydd cyn y Nadolig bu farw’r awdur Gareth Wyn Williams yn 71 oed.
Ychydig fisoedd ynghynt roedd Gwasg y Bwthyn wedi cyhoeddi ei gyfrol wych o storïau A:annisgwyl ac er y tristwch o’i golli, rydym yn falch iddo gael gweld y gyfrol ar glawr. Brodor o Sir y Fflint oedd Gareth er ei fod wedi cartrefu yn y cymoedd ers blynyddoedd. Treuliodd ei yrfa ym myd addysg cyn troi ei law at ysgrifennu ar ôl ymddeol. Cyhoeddodd drioleg o nofelau poblogaidd am yr arolygydd Arthur Goss gyda Gomer, sef Y Teyrn, Y Llinach a hefyd Yr Eryr, yn ogystal â Promenad y Gwenoliaid, nofel a leolwyd yn Y Rhyl yn 1969. Cydymdeimlwn yn fawr â’i briod Pat a’i blant, Nia, Cai a Lowri.