Mewn ystafell dywyll uwchben siop ddi-nod, mae Enid Ellis wrthi'n curadu arddangosfa gyfrinachol sydd ar agor i neb ond hi ei hun. Wrth iddi gasglu gwrthrychau o'i gorffennol a chael trefn ar stori ei bywyd, daw dieithryn i darfu ar y curadu. Llanc ifanc, anniddig, sy'n drysu trefn y stori am byth. Dyma nofel annisgwyl ac anarferol sy'n archwilio'r ffin rhwng y gwir a'r gau.
Gwybodaeth Bellach:
Mae hon yn nofel lawn dychymyg - un 'quirky' sy'n llawn troeon annisgwyl...
Disgrifiad Ruth Richards o'r nofel:
'Mae Enid Ellis yn glamp o gymeriad: heria’r byd yn ei siwtiau brethyn, ei theits American Tan a rhwbiad o Revlon, yn gyfuniad cythryblus a gafaelgar o ffraethineb a rhyfyg. Dyma nofel sy’n fwrlwm o atgofion a manylion crafog, ond un sy’n troi unrhyw chwa o hiraeth â’i ben i waered yn dwt a deheuig er mwyn dinoethi trallod a rhagrith Enid a’r byd a’i creodd.'

