top of page

Dychwelyd adra dros dro, dyna oedd y plan. Ond rhywsut mae Lol yn ôl yn gweithio yng ngwersyll Sea View fel petai’r pymtheg mlynedd dwetha rioed di digwydd. Ac i goroni’r cwbl, mae’n rhaid iddi ddelio gyda Jonny Greene, sydd ddim yn ideal, a dweud y lleiaf.

 

Gyda hen gymeriadau yn ei gorfodi i wynebu hen hanes, does gan Lol ddim dewis ond codi ei phen o’i ffôn a thalu sylw i’r hyn sydd o’i chwmpas.

 

Nofel ffraeth a chyfoes am gariad, carafans, lan y môr, sônas, dawnsio, cyfeillgarwch a chaethiwed gan awdur V+Fo.

 

‘Biwtar arall gan awdur V + Fo’

Llwyd Owen

 

‘Bydd LOL yn gwneud i chi chwerthin yn groch a thorri eich calon bob yn ail.

Llwyd Owen

LOL

£12.00Price
  • 978-1-917006-51-4

bottom of page