Swydd Golygydd Creadigol

Golygydd Creadigol

Swydd ran-amser oddeutu deuddydd yr wythnos yw hon a chroesawir ceisiadau gan olygyddion profiadol yn ogystal ag unigolion sy’n newydd i’r maes. Telir cyflog o hyd at £12,480.

I ymgeisio anfonwch lythyr cais a CV at: marred@gwasgybwthyn.cymru cyn y dyddiad cau sef 1 o’r gloch, prynhawn Gwener, 23 Mehefin. Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ddydd Llun, Gorffennaf 10 gyda’r ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau ar 4 Medi.

Swydd ddisgrifiad golygydd creadigol

Nodir y dyletswyddau isod ond byddwn yn trafod union ddyletswyddau’r swydd gyda’r ymgeisydd llwyddiannus yn unol â chefndir, sgiliau ac anghenion hyfforddiant.

  •     Y prif ddyletswydd yw cyd-reoli rhaglen gyhoeddi 10 llyfr y flwyddyn.
  •     Cyd-gyfrannu mewn cyfarfodydd golygyddol i ddatblygu rhestrau llyfrau a chynnig syniadau am awduron, teitlau neu brosiectau arbennig yn unol â gweledigaeth gyhoeddi’r Wasg.
  •     Cyd-farnu a rhoi sylwadau neu adroddiadau critigol ar deipysgrifau a gynigir i’r wasg.
  •     Gwneud gwaith gweinyddol gan ddefnyddio rhaglenni Word, excel ac ati wrth ymwneud â pharatoi ceisiadau, e-bostio, cadw cofnodion cyfarfodydd gydag awduron ag eraill a ffurflenni cytundebau, golygu ar-lein, darparu adroddiad i Fwrdd y cyfarwyddwyr am sefyllfa gyfredol yn ystod proses gyhoeddi’r 10 llyfr.
  •     Cadw at linell amser y rhaglen gyhoeddi, trosglwyddo gwybodaeth am y llyfrau i’r cronfeydd data arferol.
  •     Golygu llawysgrifau yn greadigol a chydlynu bob cam o’r broses gyhoeddi gan gynnwys trafod gydag awdur yn adeiladol a sensitif wrth gynnig sylwadau, ymgynghori neu awgrymu newidiadau neu addasiadau penodol a chlir o ran ail strwythuro testun, cywair neu ddefnydd o iaith.
  •     Rhoi cyfarwyddiadau i awduron parthed y llinell amser, gofynion cadw at dargedau amser y broses farchnata ac ati.
  •     Nodi gofynion a rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer prawf ddarllenydd, golygydd copi, dylunwyr a sicrhau fod holl ofynion llyfryddol arall yn briodol lle bo’n berthnasol e.e. rhifau tudalen, rhagair, diolchiadau, tudalen gynnwys, mynegai, broliant, cydnabyddiaethau, diwyg clawr ac ati.

Rydym yn chwilio am berson egnïol sydd â diddordeb gwiw mewn darllen a’r byd ac sy’n llawn bwrlwm syniadau i allu adnabod llyfrau darllen newydd, gwahanol fyddai’n apelio at chwaeth darllenwyr newydd a thraddodiadol. Byddai diddordeb mewn ysgrifennu’n greadigol yn fanteisiol iawn a byddai derbyn esiampl o unrhyw gyhoeddiad/lawysgrif yn cael ei groesawu. Disgwylir y bydd y person a benodir yn medru cynnig syniadau gwreiddiol a ffres ar gyfer llyfrau i ateb gofynion gwahanol fathau o ddarllenwyr.

  •     Byddai gradd dosbarth 2i neu gyntaf mewn Cymraeg/Saesneg, MA mewn ysgrifennu creadigol yn gaffaeliad ar gyfer y swydd hon.
  •     Sgiliau cyfathrebu uchel mewn Cymraeg (a Saesneg) yn hanfodol. Y gallu i ysgrifennu Cymraeg graenus a chywir.
  •     Sgiliau cyfrifiadurol generig (e.e. Word) y gellir eu cymhwyso ar gyfer rhaglenni bwrdd cyhoeddi megis Adobe In Design.
  •     Rhinweddau: cydweithio gydag eraill, hyblygrwydd, dibynadwyedd, gallu cadw at flaenoriaethau a thargedau amser a chyllidol, gallu delio ag eraill ac ymdopi gyda newidiadau.
  •     Bod yn drefnus, ac yn meddu ar sgiliau gweinyddu da.

Yn ôl i weld y rhestr.