Prawf MOT

Ddechrau mis Mawrth byddwn yn cyhoeddi newydd nofel newydd sbon gan neb llai na Bethan Gwanas. Ynddi, mae Mot y ci defaid a’i berchennog Lea yn adrodd eu hanes am yn ail. Byddwch yn chwerthin ac yn crio wrth ddarllen am anturiaethau caru Lea a’r berthynas annwyl ac arbennig rhyngddi hi a Mot. Does dim rhaid i chi garu cŵn i fwynhau’r nofel hon!

Yn ystod wythnos gyntaf Mawrth byddwn yn gwahodd darllenwyr i roi llun ohonyn nhw’u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda chopi o Prawf MOT, a bydd gwobr arbennig i’r llun gorau.

Yn ôl i weld y rhestr.