Lansio Tyfu’n Gerddor

Nos Wener 17 Mehefin lansiwyd hunangofiant y cerddor adnabyddus Mr Alun Guy yn yr Eglwys Norwyaidd yn y Bae Caerdydd. Daeth criw da ynghyd i glywed yr awdur yn cael ei holi gan ei gyfaill Mr Hywel Jones mewn sgwrs hwyliog a difyr.

 

Mae pawb drwy’r Gymru sy’n hoff o gerddoriaeth a chanu wedi clywed am Alun Guy. Rhoddodd oes o wasanaeth i’r byd cerddorol yng Nghymru fel athro ysbrydoledig, beirniad eisteddfodol ac arweinydd dros gyfnod o drigain mlynedd.

 

Meddai Alun Guy yn ei Ragarweiniad i’r gyfrol: “Gobeithio y cewch …fwynhad wrth gydgerdded gyda mi, gan nodi’r dylanwadau a’r digwyddiadau, rhai’n ddoniol ac eraill yn ddifrifol, fu’n llywio cwrs fy mywyd.”

 

Mae hon yn gyfrol ddarllenadwy drwyddi draw, yn llawn storïau ac atgofion o bob cyfnod o fywyd y cerddor amryddawn hwn.  Mae Alun Guy yn meddu ar ddawn i adrodd stori, ac mae ei bersonoliaeth hoffus yn pefrio drwy’r cyfan. Mae’r nifer fawr o ffotograffau lliw hefyd yn ychwanegu at apêl y gyfrol.

 

Yng nghefn y gyfrol ceir rhestri o’r cymanfaoedd a arweiniodd Alun Guy dros y blynyddoedd, a’r eisteddfodau lle bu’n beirniadu, a’r cyngherddau dan ei arweiniad dros gyfnod estynedig. Mae’r cyfan yn tystio i’w wasanaeth clodwiw i Gymru. 

 

Yn ôl i weld y rhestr.