AmGen o’r Babell Lên - Nos Sadwrn
Nos Sadwrn, 8 Awst – 6.00yh
Bybl Mari a Catrin
Sgwrs hwyliog llawn swigod yng nghwmni Mari Emlyn a Catrin Lliar Jones. Bydd y ddwy yn trafod eu nofelau newydd, Adar o’r Unlliw a Mefus yn y Glaw, a hefyd yn trafod sgwennu, helyntion merched ac ambell dabw.